Cynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir PenfroFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro yn trafod eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ddydd Llun

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cynllun i gryfhau addysg Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

Fore Llun fe basiwyd yn unfrydol adroddiad yn datgan sut bydd mwy o ysgolion yno yn darparu eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw'r adroddiad yn dilyn cynllun Cyngor Sir Gâr i newid 10 o ysgolion y sir i fod yn rhai Cymraeg eu hiaith.

Mae'n rhaid i bob cyngor gyflwyno cynllun o'r fath i ddatgan sut y bydd yn cyflawni targedau Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr adroddiad mae yna 59 o ysgolion yn y sir, dolen allanol ac mae 19 (neu 32%) yn darparu addysg Gymraeg iaith gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn argymell fod y cyngor yn parhau â'r broses o newid Ysgol Croesgoch i fod yn ysgol cyfrwng Gymraeg

O ganlyniad, dywed y cyngor fod 22.9% o ddisgyblion y sir yn derbyn addysg gwbl Gymraeg ar hyn o bryd.

Ond y bwriad nawr yw cynyddu'r ffigwr hwn i hyd at 37% erbyn 2031. Byddai hynny'n gyfystyr â 127 o ddisgyblion ychwanegol yn derbyn eu haddysg drwy'r Gymraeg.

I gyrraedd y nod hwn mae'n cael ei argymell fod y cyngor yn parhau â'r gwaith o newid Ysgol Gymunedol Croesgoch i fod yn ysgol cyfrwng Gymraeg, tra bod ysgolion eraill sydd â dwy ffrwd iaith hefyd yn darparu addysg Gymraeg yn unig neu'n "cryfhau'n sylweddol" eu darpariaeth Gymraeg.

Yr ysgolion sy'n darparu dwy ffrwd iaith ar hyn o bryd yw Ysgol Arberth, Ysgol Gelli Aur ac Ysgol Glannau Gwaun.

Mae'r strategaeth hefyd yn cyfeirio at gydweithio gyda'r Mudiad Meithrin a sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg o'r newydd, neu ehangu dalgylch ysgolion Cymraeg i ardaloedd ble nad oes darpariaeth o'r fath yn bodoli'n barod.

Dwy ysgol newydd

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg a'r Gymraeg, fod yr awdurdod addysg yn falch o'i gyflawniadau hyd yma, ond mae'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Agorwyd Ysgol Caer Elen - sy'n darparu addysg Gymraeg i blant rhwng 3 ac 16 oed - yn 2018 ar gost o £28.1m

Ychwanegodd: "Mae'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn ddiweddar yn Sir Benfro wedi bod yn hynod lwyddiannus.

"Mae llawer o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg yn llawn, ac mae brwdfrydedd dros ein dwy ysgol newydd yn Sir Benfro - Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd ac Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych-y-pysgod - wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.

"Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd o Sir Benfro, rydyn ni'n gwybod nad yw pob plentyn yn gallu cael addysg Gymraeg ar hyn o bryd.

"Rydym yn falch iawn o allu mynd i'r afael â hyn yn ein cynllun 10 mlynedd."