Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 10-34 Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Cymru dan y pyst wedi un o geisiau Iwerddon yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru dan y pyst wedi un o geisiau Iwerddon yn yr hanner cyntaf

Fe gafodd Cymru eu trechu gan Iwerddon yng ngêm gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni - gêm gyntaf ail gyfnod Warren Gatland fel hyfforddwr y tîm cenedlaethol.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ddangos pam mai nhw sydd ar frig rhestr prif ddetholion y byd gyda pherfformiad pwerus i sicrhau mantais sylweddol yn yr hanner cyntaf.

Er i Gymru daro'n ôl a sicrhau mwy o feddiant yn yr ail hanner, roedd yna ormod i'w wneud o ran ceisio troi'r fantol.

Liam Williams wnaeth sgorio unig gais Cymru wrth iddyn nhw golli o 10 pwynt i 34 yn Stadiwm Principality - buddugoliaeth gyntaf Iwerddon yng Nghaerdydd yn y Chwe Gwlad mewn 10 mlynedd.

Roedd y Gwyddelod yn gryf o'r dechrau, a dau funud yn unig wedi'r gic gyntaf roedd Caelon Doris wedi croesi'r llinell. Gyda throsiad Johnny Sexton, roedden nhw saith pwynt ar y blaen cyn i'r dorf cael cyfle i setlo wedi'r anthemau cenedlaethol.

Gyda wyth munud ar y cloc roedden nhw wedi dyblu'r fantais, diolch i gais gan y clo James Ryan ac ail drosiad Sexton.

Yn y 12fed munud roedd yna gyfle o'r diwedd i Gymru a gafodd meddiant o'r bêl diolch i dacl allweddol gan Gareth Thomas. Fe giciodd Rio Dyer y bêl tua'r llinell a rhuthro ar êi hôl ond fe gafodd cefnwr yr ymwelwyr, Hugo Keenan y blaen arno a'i atal rhag tirio.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Taulupe Faletau a George North yn ceisio atal James Lowe

Fe lwyddodd Dan Biggar i roi pwyntiau ar y sgorfwrdd ar ôl i Gymru sicrhau cic gosb yn dilyn sgrym ymosodol, dim ond i Sexton ychwanegu triphwynt cyfatebol i Iwerddon wedi i hwythau gael cic gosb wrth i'r pwysau barhau ar y tîm cartref.

Daeth trydydd cais Iwerddon wrth i Gymru geisio ymosod, ond fe ryng-gipiodd James Lowe bás gan Biggar ac wrth iddo garlamu 60 metr i lawr y maes roedd hi'n amlwg o'r dechrau nad oedd gan unrhyw un obaith o'i ddal.

Yn dilyn trosiad arall gan Sexton, a chic gosb arall yn fuan wedi hynny, roedd Cymru'n colli o 3-27 wedi 28 munud o chwarae a doedd dim newid i'r sgôr cyn yr egwyl.

Difyr fyddai wedi bod yn bry ar y wal i glywed beth oedd gan Warren Gatland i'w ddweud wedi hanner cyntaf llawn camgymeriadau a diffyg disgyblaeth - ac fe lwyddodd Cymru i leihau'r bwlch yn fuan yn yr ail hanner.

Wedi i'r Gwyddelod ildio cic gosb, fe benderfynodd Cymru i gicio am y gornel. O'r symudiad dilynol - pas byr o'r lein i George North, ac yna i Joe Hawkins a Biggar - daeth cyfle hawdd i Liam Williams groesi'r llinell.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Gyda throsiad Biggar roedd hi bellach yn 10-27, ond fe fethodd Cymru â gwneud y mwyaf o gosb yn erbyn Andrew Porter am dacl hwyr ar Liam Williams wrth iddo dirio, pan wyrodd tafliad y capten Ken Owens.

Roedd yna gyfle gwych i Justin Tipuric a gafodd ei atal gan Caelan Doris ger llinell y Gwyddelod cyn iddo gael ei eilyddio.

Roedd Cymru erbyn hyn yn cael mwy o feddiant o lawer nac yn yr hanner cyntaf, ond roedd angen mynd gam ymhellach a throi meddiant yn bwyntiau. Wrth i'r Gwyddelod ddod dan bwysau, roedden nhw bellach oedd cyflawni mân droseddau, gan gynnwys un yn erbyn North oddi ar y bêl.

Ond gyda 72 o funudau ar y cloc, fe sgoriodd Josh van der Flier bedwerydd cais Iwerddon, a sicrhau pwynt bonws cyntaf pencampwriaeth eleni. Gyda throsiad Ross Byrne roedd hi'n 10-34.

Un cysur i Gymru yw eu bod wedi atal eu gwrthwynebwyr rhag cael pumed cais a throsiad, a fyddai wedi gosod record newydd i Iwerddon yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.