Gwahardd canu 'Delilah' yn ystod gemau rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae corau sy'n perfformio yng ngemau rhyngwladol Cymru yn Stadiwm Principality wedi cael eu gwahardd rhag canu'r glasur 'Delilah' gan Tom Jones.
Dyw'r gân heb gael ei chwarae ar uchelseinyddion y stadiwm ers 2015, ac mae'r stadiwm wedi cadarnhau na fydd bellach yn cael ei pherfformio gan gorau chwaith.
Mae'r gân wedi denu beirniadaeth ers tro am fod y geiriau yn disgrifio dyn cenfigennus yn llofruddio ei bartner.
Er hynny, mae wedi bod yn boblogaidd gyda chefnogwyr tîm rygbi Cymru, ac mae Tom Jones ei hun wedi ei pherfformio cyn gêm ryngwladol yn y gorffennol.
Daw penderfyniad y stadiwm wedi i honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod gael eu gwneud yn erbyn Undeb Rygbi Cymru (URC) ar raglen BBC Wales Investigates.
Dywedodd llefarydd ar ran Stadiwm Principality: "Ni fydd Delilah yn cael ei chanu gan gorau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality.
"Fe wnaeth URC dynnu'r gân oddi ar y rhestr chwarae ar gyfer gemau rhyngwladol yn 2015.
"Yn fwy diweddar mae corau wedi cael cais i beidio â chanu'r gân yn ystod eu perfformiadau cyn ac yn ystod gemau.
"Mae URC yn condemnio trais domestig o unrhyw fath."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn "ymwybodol fod y gân yn broblemus ac yn achosi gofid i rai cefnogwyr oherwydd ei chynnwys".
'Datrys dim'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, Tom Giffard, fod y weithred wedi'i amseru er mwyn ceisio "lleddfu'r pwysau sydd ar URC ar hyn o bryd".
"Yr hyn mae pobl wedi galw amdano ydy newid sefydliadol, gwell arferion gweithio a phroses gwynion gwell ar gyfer URC, ond yn hytrach, maen nhw'n dewis gwahardd cân boblogaidd gan Tom Jones," meddai.
"Bydd y weithred yma'n datrys dim."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023