Gwagio tai wedi tân mewn tŷ teras ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Tŷ tân GraigwenFfynhonnell y llun, Sarah Reeves
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau tân eu hanfon i Hurford Crescent yn ardal Graigwen yn gynnar ddydd Sul

Fe gafodd tŷ teras ei ddifrodi'n llwyr yn dilyn tân ym Mhontypridd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cafodd tua 40 o ymladdwyr tân eu hanfon i Hurford Crescent yn ardal Graigwen am 7:09 fore Sul yn dilyn galwad i'r gwasanaethau brys, a bu'n rhaid defnyddio chwe pheiriant anadlu.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf, yn ôl y gwasanaeth tân.

Cafodd criwiau eu hanfon o Bontypridd, Caerffili, Gilfach Goch, Tonypandy, Abercynon a'r Eglwys Newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder am ddiogelwch strwythurol y tŷ a aeth ar dân

Bu'n rhaid i breswylwyr nifer o dai cyfagos adael eu cartrefi ac yn ôl y gwasanaeth tân bydd yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu hailgartrefu.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 09:29 ond mae un criw wedi aros yna i chwistrellu dŵr mewn mannau poeth.

Mae yna bryder dros ddiogelwch strwythurol y tŷ a aeth ar dân a bydd swyddogion cyngor yn cael eu galw yno i asesu'r sefyllfa.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gadarnhau achos y tân.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod disgwyl i Hurford Crescent fod ar gau "am beth amser", ynghyd â Heath Crescent a rhan o Heol Graigwen.

Maen nhw'n gofyn i yrwyr osgoi'r ardal a defnyddio ffyrdd eraill os yn bosib gan fod disgwyl oedi yn yr ardal.

Pynciau cysylltiedig