Y Glyderau: Dyn ifanc wedi marw ar ôl syrthio o fynydd

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn cael ei achubFfynhonnell y llun, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tri dyn ifanc yn dringo gyda'i gilydd pan syrthiodd un

Mae dyn ifanc wedi marw ar ôl syrthio oddi ar un o fynyddoedd y Glyderau yn Eryri.

Roedd tri o ddynion yn dringo mynydd Y Gribin ddydd Sadwrn pan ddaeth rhan o'r hyn yr oedd un dyn yn ei afael ynddo yn rhydd.

Fe syrthiodd o "gryn bellter", meddai Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, a bu farw o'i anafiadau.

Cafodd timau achub mynydd, heddlu'r gogledd a hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau eu galw - gyda'r ymdrechion yn parhau tan ddydd Sul.

Dywedodd Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen fod "meddyliau holl aelodau'r tîm gyda theulu a ffrindiau'r dyn".