Pwysedd dŵr isel yn effeithio ar gyflenwad Ysbyty Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ffermydd yn ardal Ysbyty Ifan ger Betws-y-coed wedi bod heb gyflenwad dŵr iawn ers dros bythefnos.
Y broblem ydi bod pwysedd y dŵr yn isel iawn ac yn effeithio ar y cyflenwad i gartrefi ac adeiladau fferm lle mae anifeiliaid angen eu dyfrio.
Dywed Dŵr Cymru eu bod nhw'n gweithio'n ddiflino i gesio datrys y broblem.
"Y sefyllfa ydi bod gennom ni ddwy neu dair ffarm lle mae'r cyflenwad dŵr... pwysedd y dŵr yn isel ddychrynllyd," meddai Dafydd Peredur Jones, swyddog efo Undeb Amaethwyr Cymru yn Nyffryn Conwy, wrth Cymru Fyw.
"Mae hyn yn mynd ymlaen ers dros bythefnos rwan a ma' nhw'n cael dipyn o drafferthion cario mlaen hefo'u busnes ffarm ac hefyd yn y tŷ.
"'Den ni'n poeni am les yr anifeiliaid. Er bod na ddŵr yne... rhaid cael y pwysedd iawn er mwyn golchi trelars a golchi ierdydd.
"Hefyd ['den ni'n bryderus] am les y ffermwyr yn y tŷ hefyd, achos does 'na ddim cyflenwad dŵr er mwyn iddyn nhw fedru cario mlaen hefo gweithredoedd o ddydd i ddydd yn y tŷ."
'Ceisio datrys y broblem yn fuan'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn ymwybodol o broblemau ar ein rhwydwaith dŵr sy'n effeithio ar gyflenwadau rhai cwsmeriaid yn ardal Ysbyty Ifan.
"Rydym wedi dod o hyd, a thrwsio gollyngiad ar bibell ddŵr yn yr ardal, ond rydym yn ymwybodol fod problemau yn parhau gyda'r rhwydwaith sy'n golygu fod rhai cartrefi sy'n uwch i fyny yn parhau i brofi pwysedd dŵr isel ac mae ein tîm yn gweithio'n ddiflino yn ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosib.
"Tra bod y gwaith yma'n mynd rhagddo rydym wedi darparu poteli dŵr i'r cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio ac yn cadw mewn cysylltiad agos â nhw.
"Mae'n ddrwg iawn gennym am yr anghyfleustra mae hyn yn ei achosi i'n cwsmeriaid a hoffem eu sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i'w ddatrys cyn gynted â phosib a hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2022