Dyn, 61, wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
swyddog tan

Mae dyn 61 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau tân a'r heddlu eu galw i'r tŷ ar Ffordd Walter toc wedi 10:00 y bore.

Yno fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn oedd yn byw yn y tŷ ond roedd wedi marw yn y fan a'r lle.

"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae'n meddyliau ni gyda theulu a ffrindiau'r dyn," meddai'r Sarsiant James Truscott o Heddlu'r De.

"Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân i achos y tân, ac mae hwnnw'n parhau.

"Fodd bynnag, yn y cyfnod cynnar hwn, dydyn ni ddim yn credu ei fod yn amheus."

Pynciau cysylltiedig