Undeb athrawon yn gohirio streic wedi cynnig newydd

  • Cyhoeddwyd
Athrawes mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) wedi cytuno i ohirio diwrnod o weithredu diwydiannol wythnos nesaf yn dilyn "trafodaethau manwl" gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd athrawon sy'n perthyn i'r undeb i fod i fynd ar streic am yr eildro ar 14 Chwefror, gyda mwy o weithredu diwydiannol i ddod ar 15 a 16 Mawrth.

Dywed yr undeb, sy'n cynrychioli 23,000 o athrawon a staff cefnogi yng Nghymru, bod cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dal yn "sylweddol is" na'r codiad cyflog maen nhw'n galw amdano.

Ond fe fydd streic wythnos nesaf yn cael ei gohirio nawr tan ddydd Iau 2 Mawrth wrth i'r undeb ymgynghori â'r aelodau.

Codiad cyflog o 5%, o fis Medi y llynedd, oedd y cynnig ar y bwrdd yn wreiddiol ac fe gafodd ei wrthod gan undebau addysg am ei fod yn sylweddol is na graddfa chwyddiant.

Ym mis Ionawr fe gynigiodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles daliad untro i athrawon a phenaethiaid ysgol mewn cyfarfod gyda chynrychiolwyr undeb, ond roedd hwnnw hefyd yn annigonol yn ôl yr undebau.

Y cynnig diweddaraf yw cynnydd o 1.5% ar ben y 5% gwreiddiol mewn cyflogau, yn ogystal â thaliad untro o 1.5%.

Yn ôl Cyd-Ysgrifennydd Cyffredinol NEU, Kevin Courtney mae'r cynnig hwnnw'n "dal yn sylweddol is na'r hyn y mae ein haelodau'n galw amdano, ac nid yw'n dechrau mynd i'r afael â'r toriad mewn termau real i athrawon ers 2010".

Ond fe ddywedodd y bydd yr undeb yn ymgynghori gyda changhennau a chynrychiolwyr yn y gweithle i gasglu barn aelodau.

Llwyth gwaith

Gan ohirio'r diwrnod streic nesaf tan 2 Mawrth, dywedodd y bydd yr undeb "yn parhau i bwyso" am gynnig gwell.

Ychwanegodd Mr Courtney bod "parodrwydd" Llywodraeth Cymru i drafod yr anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith athrawon "yn gyferbyniad llwyr i safiad San Steffan a'r Gweinidog Addysg Gillian Keegan".

Dywedodd Ysgrifennydd NEU Cymru David Evans, bod llwyth gwaith staff yn parhau i fod yn fater o bwys i aelodau.

"Bu hefyd gytundeb i adolygu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru o ran tâl yn y flwyddyn academaidd 2023/24," meddai.

"Edrychwn ymlaen at roi tystiolaeth fanwl ynghylch effeithiau chwyddiant sy'n codi'n gynyddol a'r argyfwng costau byw i CACAC."