Castell-nedd: Carchar am oes wedi llofruddiaeth clwb nos
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddio dyn y tu allan i glwb nos yng Nghastell-nedd.
Bu farw Matthew Thomas, 47, o ganlyniad i'r ymosodiad y tu allan i glwb nos The Arch fis Gorffennaf y llynedd.
Cafodd Daniel Pickering, 34, ei garcharu am leiafswm o 18 mlynedd gyda'r heddlu yn disgrifio'r ymosodiad fel un heb reswm ac yn enghraifft o sut y gall goryfed a chymryd cyffuriau sbarduno ymddygiad treisgar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu'r De fod digwyddiadau o'r fath yn gorffen mewn trasiedi i ddioddefwyr diniwed a'u teuluoedd.
"Rydym wedi gweld nifer o'r math yma o lofruddiaethau yn y de a drwy'r Deyrnas Unedig," meddai.
"Mae modd osgoi llofruddiaethau o'r math yma pe bai pobl yn cymryd amser i ystyried eu hymddygiad.
"Rwyf eisiau apelio i bobl ystyried eu hymddygiad mewn diod a chyffuriau.
"Ydych chi yn troi yn dreisgar? A oes gennych chi ffrindiau sy'n mynd yn dreisgar neu sydd eisiau cwffio ar noson allan?
Croesawu dyfarniad
"Plîs cymrwch gamau i addasu eich ymddygiad ac i osgoi gwrthdaro.
"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Matthew Thomas ac rwy'n wirioneddol yn gobeithio fod y ddedfryd heddiw yn helpu rhywfaint."
Mewn teyrnged yn Llys y Goron Abertawe dywedodd teulu Mr Thomas ei fod yn gymeriad byrlymus a hoffus.
"Roedd ond yn 47 oed, yn dad, mab, brawd a ffrind i gymaint," meddent.
"Fe wnaethom eistedd yn y llys a gwrando ar nifer o dystion yn disgrifio erchyllterau'r ymosodiad.
"Rydym yn dal i'w chael yn anodd i brosesu cymaint y trais, ac rydym yn dal i ddioddef o wybod tra bod Matthew ar y llawr yn marw fod Daniel Pickering wedi parhau i'w ddyrnu a'i sathru.
"Fel teulu rydym yn croesawu'r dyfarniad a'r ddedfryd heddiw. Mae'n rhoi cysur i ni wybod na fydd y llofrudd Daniel Pickering yn peri perygl i'r cyhoedd am o leiaf 18 mlynedd."