Un yn yr ysbyty a naw o dai wedi'u gwagio yn dilyn tân
- Cyhoeddwyd

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty a naw o dai wedi'u gwagio yn dilyn tân mewn tŷ yn sir Abertawe fore Mawrth.
Mae diffoddwyr yn dal i ddelio gyda'r tân mewn tŷ yng Ngorseinon, ac roedd y llawr cyntaf a'r atig yn wenfflam pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys tua 08:15.
Yn ogystal â'r un person sydd wedi cael ei gymryd i'r ysbyty, dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi cynghori tri arall i fynd yno hefyd.
Mae criwiau tân o Orseinon, Treforys, Canol Abertawe, Y Tymbl a Llanelli yn dal i ddelio gyda'r digwyddiad.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru bod trigolion naw eiddo cyfagos wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi.