GIG: 'Dibynnu gormod ar staff asiantaeth yn effeithio ar gleifion'

  • Cyhoeddwyd
Nyrs yn gwisgo mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff asiantaeth yn cael eu cyflogi er mwyn "llenwi'r bwlch" oherwydd prinder staff o fewn y gwasanaeth iechyd

Fe allai bod yn "or-ddibynnol ar staff asiantaeth" effeithio ar ddiogelwch cleifion, yn ôl is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.

Daw rhybudd Dr Olwen Williams ar ôl i ffigyrau Llywodraeth Cymru ddangos fod y GIG wedi gwario dros draean yn fwy o arian ar staff asiantaeth y llynedd na'r flwyddyn gynt.

Mae'r Coleg yn dweud fod prinder staff yn "broblem gronig" ar draws y gwasanaeth a bod angen "buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynnydd yn adlewyrchu costau'r pandemig ond byddent "yn falch o weithio gyda Choleg Brenhinol y Ffisigwyr yng Nghymru i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio".

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Dr Olwen Williams fod y pwysau ar y gwasanaeth iechyd "yn waeth nag erioed".

Mae'n rhybuddio mai prinder staff yw'r "her fwyaf" a hynny'n arwain at orfod "llenwi bylchau yn y gweithlu" drwy dalu asiantaethau.

Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru'n dangos fod byrddau iechyd wedi gwario mwy na £260m ar wneud hynny y llynedd - cynnydd o'r £191.5m gafodd ei wario yn y flwyddyn flaenorol.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant ar asiantaethau wedi bron â dyblu, gan gynyddu 98% ers 2017/18.

Daw hyn yn ystod cyfnod hir o anghydfod dros gyflogau, gyda nifer o staff y gwasanaeth iechyd yn parhau i streicio.

Disgrifiad o’r llun,

Yr her fwyaf sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw prinder staff, dywedodd Dr Olwen Williams

Un ateb, yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, yw buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys cefnogi meddygon arbenigedd ac arbenigol.

Maen nhw'n lansio papur briffio ddydd Iau sy'n argymell y dylai byrddau iechyd "ddatblygu a chydnabod sgiliau, arbenigedd a chyfraniad meddygon arbenigedd ac arbenigol yng Nghymru".

'Effaith ar ofal, diogelwch a morâl'

Dywedodd Dr Olwen Williams fod dibynnu ar staff asiantaeth yn gallu cael effaith negyddol ar sawl agwedd o fewn y gwasanaeth, gan gynnwys diogelwch cleifion.

"Er y gall gweithwyr asiantaeth helpu'r GIG i gynnal lefelau staffio mewn argyfwng, gall dod yn or-ddibynnol ar feddygon locwm gael effaith negyddol ar barhad gofal, diogelwch cleifion a morâl tîm.

"Yn y pendraw, mae angen inni wybod faint o staff sydd eu hangen i gadw i fyny â galw cleifion, ond ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod maint y broblem.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff yn flinedig ac eisiau bod mewn rheolaeth o'u gwaith yn ôl Dr Olwen Williams

Dywedodd eu bod yn disgwyl cynllun gweithlu gan y llywodraeth dros yr wythnosau nesaf ond y bydd gweithredu'r cynllun hynny'n cymryd "llawer o waith".

Ychwanegodd fod nifer o feddygon y gwasanaeth iechyd "eisiau gweithio'n fwy hyblyg" a chael "mwy o reolaeth dros eu horiau".

"A pham lai? Mae cyfraddau gorweithio a chyfraddau blinder yn uwch nag erioed ymhlith staff y GIG.

"Gallai rhoi mwy o reolaeth i bobl ynghylch ble, sut a phryd y maen nhw'n gweithio atal pobl rhag gadael y sector iechyd a gofal yn llwyr."

Ychwanegodd y dylai cefnogi meddygon arbenigedd ac arbenigol fod yn "rhan bwysig o sut rydyn ni'n gwneud hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae digon o staff i gael yng Nghymru ond mae angen eu denu i weithio i'r gwasanaeth iechyd yn ôl yr Aelod Ceidwadol yn y Senedd, Sam Kurtz

Fe ddaeth y ffigyrau i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Aelod Ceidwadol Senedd Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Sam Kurtz, wneud cais amdanynt.

"I weld bod Llywodraeth Cymru'n gwario dros chwarter miliwn o bunnoedd ar weithwyr asiantaeth, mae'n siomedig ofnadwy," dywedodd.

"Mae ganddon ni'r staff yma yng Nghymru, ond os y'n ni'n mynd i gael gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ma' bobl Cymru'n mynd i fod yn browd ohono, mae'n rhaid i'r Llywodraeth dynnu gweithwyr o fod gyda'r asiantaeth i fod ar gontract gyda'r GIG yma yng Nghymru.

"I gael llai o ddibyniaeth ar weithlu asiantaeth ma' rhaid gwneud y swydd [yn un] mwy deniadol, gweithio'n hyblyg... mae hwnna'n mynd i dynnu mwy o bobl draw ar gontract gyda'r gwasanaeth iechyd a chymdeithasol.

"Hefyd, mwy o wyliau a phethau fel 'ny ond hefyd, cyflog teg."

'Adlewyrchu effaith y pandemig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwariant ar staff asiantaeth yn cynrychioli llai na 6% o fil cyflog GIG Cymru, ond bod y cynnydd yn adlewyrchu effaith y pandemig.

"Byddem yn falch o weithio gyda Choleg Brenhinol y Ffisigwyr yng Nghymru i ystyried sut y gallem ddatblygu ffyrdd newydd o weithio wrth i ni roi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y Gweithlu ar waith i ymdrin â'r pwysau presennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cynnydd yn adlewyrchu effaith y pandemig.

"Mae mwy o staff yn gweithio yn GIG Cymru nag erioed o'r blaen, ac eleni rydym yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed mewn hyfforddiant ac addysg broffesiynol - £262m - gan gynnwys mwy o gyfleon hyfforddi nag erioed o'r blaen.

"Mae'r cynnydd yng nghostau staffio asiantaeth yn 2020-21 a 2021-22 yn adlewyrchu effaith y pandemig.

"Mae Strategaeth y Gweithlu, a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol."