Disgwyl am driniaeth yn achosi unigedd ac ansicrwydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth rhestrau aros ar gyfer triniaeth drwy'r gwasanaeth iechyd gyrraedd lefelau digynsail yn ystod, ac wedi'r pandemig.
Tra bod disgwyl dros ddwy flynedd yn anarferol iawn dros y ffin yn Lloegr erbyn hyn, fis Tachwedd 2022 roedd pobl wedi disgwyl dros ddwy flynedd ar gyfer 49,594 o driniaethau yng Nghymru.
Mae'r ffigwr wedi bod yn gostwng ers Mawrth 2022, a tharged Llywodraeth Cymru ydy na fydd unrhyw un yn disgwyl dros ddwy flynedd yn y mwyafrif o arbenigaethau o fis nesaf ymlaen.
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi bod yn holi tri o bobl sydd wedi bod yn disgwyl yn hir am eu triniaeth, sydd wedi disgrifio'r effaith mae hynny wedi'i gael ar eu bywydau.
Mae Denise Cole yn cymryd 22 o dabledi pob dydd i ddelio â phoen. Fe rwygodd cartilag yn ei phen-glin yn 2017, ac mae ganddi hefyd arthritis.
Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi pen-glin newydd iddi, ond y llynedd fe benderfynodd llawfeddygon newid hynny i ben-glin rhannol newydd, sy'n golygu ei bod unwaith eto ar restr aros.
Mae Ms Cole, 57 o Gastell-nedd, yn dweud ei bod wedi blino aros adref yn gwylio'r teledu, a'i bod eisiau bod yn fwy actif gydag aelodau ifanc ei theulu.
"Dy'ch chi'n diweddu lan yn aros yn y tŷ. Mae pobl allan yno sy'n ei chael hi'n waeth na fi, ond mae'r effaith ar fy mywyd yn ofnadwy," meddai.
"Mae'n effeithio ar fy nghydbwysedd, a dydw i ddim eisiau disgyn ar fy wyneb o flaen fy wyrion ac wyresau.
"Maen nhw'n ei weld yn ddoniol - ry'n ni'n gallu gwneud jôc am y peth - ond mewn gwirionedd dyw e ddim."
Mae Frank Moore, 69 o'r Drenewydd, wedi bod angen llawdriniaeth ar dorgest (hernia) yn ei stumog ers 2020.
Cafodd llawdriniaeth oedd wedi'i chynllunio ar gyfer hydref 2021 ei chanslo oherwydd pwysau Covid ar wasanaethau.
Dywedodd Mr Moore ei fod yn "anghyffyrddus trwy'r amser", ond fod yr effaith fwyaf wedi bod ar ei fywyd cymdeithasol.
"'Dw i'n ofn mynd allan rhag ofn i mi ddal annwyd. Os ydw i'n dechrau tagu am fod gen i annwyd, byddai hynny'n rhoi problemau mawr i fi," meddai.
"Ro'n i'n arfer mynd allan rhyw unwaith yr wythnos i gymdeithasu - i'r dafarn neu ble bynnag - ond mae hynny wedi mynd ac mae'n ofnadwy."
Ychwanegodd fod mynd allan o'r tŷ yn llai aml yn golygu ei fod yntau yn gweld llai a llai ar ei deulu.
Mae cyflwr Mr Moore yn cael ei gategoreiddio fel un sydd "ddim yn peryglu bywyd", ond dywedodd nad yw mor syml â chategoreiddio pethau fel hynny.
"Pe bai rhywun gyda phroblemau iechyd meddwl, fe allen nhw fynd dros y dibyn yn hawdd iawn, a 'dw i'n siŵr fod hynny'n digwydd," meddai.
Mae Christine Haley, 66 o Abertawe, hefyd yn disgwyl am lawdriniaeth ar ei phen-glin.
Mae hi wedi cael problemau ers yn ifanc, ond mae'r cymal wedi gwaethygu ymhellach yn ddiweddar, ac mae hi bellach angen baglau i gerdded.
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn gwneud llawer o driniaethau fel hyn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ond am fod gan Ms Haley gyflyrau iechyd eraill fe fydd yn rhaid iddi hi fynd i Ysbyty Treforys i'w gael.
Yno, mae rhestr aros o dros bedair blynedd ar hyn o bryd.
"Ry'ch chi'n disgwyl am y post pob dydd," meddai, gan ychwanegu ei bod yn teimlo'n "hen cyn fy amser".
"Mae poen yn gallu eich gwneud chi'n bigog iawn gyda phobl sy'n agos atoch chi, a dydych chi chwaith ddim yn mynd i bethau cymdeithasol dy'ch chi wir eisiau."
I'r tri ohonynt dyw mynd yn breifat ddim yn opsiwn, felly mae'r aros yn parhau.
'Targedau uchelgeisiol ond realistig'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo dros £1bn yn ychwanegol yn nhymor yma'r Senedd i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig a thorri amseroedd aros.
"Ry'n ni'n buddsoddi mewn datrysiadau newydd, mwy o offer, cyfleusterau newydd a mwy o staff, ac wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig er mwyn mynd i'r afael â gofal sydd wedi'i gynllunio.
"Mae nifer y bobl sy'n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth wedi gostwng bron i draean... ac ry'n ni wedi ymrwymo i sicrhau fod neb yn disgwyl yn hirach na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigaethau erbyn gwanwyn 2025."
Bydd mwy ar y stori hon ar BBC Wales Live, 22:35 nos Fercher ar BBC One Wales ac iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022