Cwpan Pinatar: Cymru 1-0 Philippines

  • Cyhoeddwyd
Kayleigh Green a Gemma EvansFfynhonnell y llun, Ashley Crowden/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd y sgorio diolch i gic o'r smotyn Kayleigh Green (chwith) yn fuan cyn yr hanner

Llwyddodd Cymru i gychwyn eu hymgyrch yng Nghwpan Pinatar gyda thriphwynt yn erbyn y Philippines.

Yn cystadlu yn y twrnamaint yn Sbaen am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd rhai wynebau newydd yng ngharfan Gemma Grainger wrth i'r tîm baratoi ar gyfer eu hymgyrch Euro 2025.

Ond tra'n mwynhau mwyafrif llethol y meddiant yn erbyn tîm sydd wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, prin iawn oedd y cyfleon o bwys wrth i'r Philippines brofi'n anodd i dorri lawr.

Daeth y gôl gyntaf ar ddiwedd yr hanner wrth i Rhiannon Roberts gael ei llorio yn y blwch, gyda Kayleigh Green yn rhwydo'r cic o'r smotyn.

Wedi'r hanner bu'n rhaid i golwr Manchester United, Safia Middleton-Patel - oedd yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yng nghrys coch Cymru - wneud arbediad yn dilyn ergyd o gryn bellter.

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy wlad wynebu'i gilydd mewn gêm ryngwladol

Ond parhau wnaeth patrwm yr hanner cyntaf ar y cyfan gyda Chymru'n gweld llawer mwy o'r bêl gyda Carrie Jones bron y dim â chyrraedd croesiad peryglus i ddyblu'r fantais ar ôl awr o chwarae.

Bu'n rhaid i Olivia Davies-McDaniel hefyd arbed ergyd Ceri Holland, ond gwastraffwyd y gic gornel a ddilynodd.

Er bod y pasio yn ddigon siomedig ar y cyfan, wrth i'r Philippines flino fe agorodd bylchau gyda Chymru'n llygadu ail.

Ond gwrthod galwadau am ail gic o'r smotyn wnaeth y dyfarnwr er bod Hannah Cain yn teimlo ei bod wedi'i llorio yn annheg.

Er cic gornel yn hwyr, ni ychwanegwyd at y sgôr wrth i un gôl fod yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Yn eu gêm nesaf bydd Cymru'n wynebu Gwlad yr Iâ nos Sadwrn.