Alun Wyn Jones: Chwaraewyr rygbi 'wedi'u trin yn wael am rhy hir'
- Cyhoeddwyd
Mae seren rygbi Cymru, Alun Wyn Jones wedi dweud mai mynd ar streic yw'r "opsiwn olaf posib" i'w gyd-chwaraewyr.
Daw wrth i anghydfod gyda phenaethiaid rygbi am gytundeb tâl hir dymor barhau.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Iau, roedd cyn-gapten Cymru yn feirniadol o'r modd y mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi delio gyda'r sefyllfa.
"Os ydych chi'n trin pobl yn wael am yn ddigon hir, 'dych chi'n canfod eich hun ble rydyn ni nawr," meddai.
Gwahardd camerâu Netflix
Gallai hynny, meddai Jones, hyd yn oed olygu'r posibiliad fod chwaraewyr Cymru'n mynd ar streic cyn eu gêm Chwe Gwlad nesaf yn erbyn Lloegr mewn wythnos a hanner.
Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland ei fod yn "hyderus" y byddai'r ornest honno'n mynd yn ei blaen.
Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo gyda'r chwaraewyr ond na fyddai'n cefnogi unrhyw streic.
Yn y cyfamser mae chwaraewyr Cymru wedi penderfynu atal criwiau camerâu Netflix rhag eu ffilmio am y tro - ac fe ofynnwyd iddyn nhw adael y gynhadledd i'r wasg ddydd Iau cyn i Alun Wyn Jones ddechrau siarad.
Mae'r cwmni ffrydio ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres ddogfen am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mai penderfyniad y garfan oedd atal cwmni cynhyrchu Box to Box rhag ffilmio'r gynhadledd i'r wasg.
Gofynnwyd i Jones hefyd am adroddiadau fod y garfan wedi gadael swper gyda noddwyr yn gynnar nos Fercher mewn protest.
"Fe aethon ni i'r swper a dangos ein wyneb a diolch i'r noddwyr i gyd," meddai Jones. "Fe aethon ni yno, diolch i'r noddwyr, a gwneud y berthynas yna."
'Dileu'r rheol 60 cap'
Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) wedi beirniadu penaethiaid rygbi Cymru, gan ddweud bod aelodau wedi "cael digon" ar yr oedi cyn cyflwyno cytundebau newydd iddyn nhw.
Ond dywedodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) ddydd Mercher nad oedd lle i newid pethau yn eu cyllidebau ar gyfer cytundebau.
Mae'r ansicrwydd yn golygu bod cyllidebau chwarae'r pedwar rhanbarth yng Nghymru - Caerdydd, y Gweilch, y Dreigiau a'r Scarlets - heb eu cadarnhau eto, na chwaith cytundebau newydd i chwaraewyr.
Mae chwaraewyr wedi bod yn ystyried mynd ar streic, gydag WRPA yn dweud fod y sefyllfa yn effeithio ar les ac iechyd meddwl rhai ohonynt.
Mae BBC Cymru yn deall bod chwaraewyr rhyngwladol Cymru wedi rhoi terfyn amser o 22 Chwefror i ddatrys yr anghydfod gydag URC - dridiau cyn yr ornest yn erbyn Lloegr.
Dywedodd Alun Wyn Jones - sydd wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol nag unrhyw chwaraewr yn hanes y gêm - nad oedd yn gwadu'r posibilrwydd o streic wedi'r dyddiad hwnnw.
"Ond hwn yw'r opsiwn olaf posib," meddai.
"Mae'n rhaid i'r gêm yng Nghymru benderfynu i ba gyfeiriad mae hi am fynd."
Dywedodd Jones fod gofynion y chwaraewyr yn cynnwys dileu'r 'rheol 60 cap', sy'n golygu bod rhaid ennill mwy o gapiau na'r trothwy yna os am barhau i chwarae dros Gymru ar ôl symud dramor.
Maen nhw hefyd eisiau sicrwydd ar gytundebau newydd, a chael "llais" i WRPA ar fwrdd y PRB.
"Mae'n anffodus fel chwaraewyr bod llawer yn cael eu dal yn y canol eto," meddai.
"Hon yw'r sgwrs flynyddol am ariannu, pwy sydd gyda beth, cael ein dal yn y canol rhwng PRB a'r rhanbarthau a'r undeb.
"Mae'n siomedig ein bod ni 20 mlynedd i mewn i rygbi rhanbarthol ac mae'r un pethau'n codi."
Ddim yn cefnogi streic
Er hynny, dywedodd Warren Gatland nad oedd unrhyw aelod o'r garfan wedi mynegi'r posibilrwydd iddo na fydden nhw ar gael i wynebu Lloegr.
Ychwanegodd na fyddai chwaith yn cefnogi'r chwaraewyr petaen nhw'n dewis mynd ar streic.
"Rwy'n hollol gefnogol o'r safbwynt maen nhw'n ei gymryd o ran ceisio dod i ddatrysiad am y problemau sydd ganddyn nhw," meddai'r prif hyfforddwr.
"Ond dwi'n meddwl bod mwy na hynny i'r peth, llawer o bethau yn y fantol o ran sicrhau bod y gêm yna'n cael ei chwarae."
Ychwanegodd ei fod yn cefnogi ymdrechion y chwaraewyr, ond fod WRPA wedi bod yn "wan iawn fel sefydliad yn ystod fy nghyfnod i yma".
"Rydw i wedi pwysleisio i'r chwaraewyr ar sawl achlysur bod angen iddyn nhw fod yn gryfach, cael mwy o leisiau, bod o gwmpas y bwrdd yn ymgynghori," meddai.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bositif iawn i'r chwaraewyr, a'r berthynas gyda'r undeb wrth symud ymlaen, achos mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o unrhyw drafodaethau sy'n mynd ymlaen."
Mynnodd nad oedd yr ansicrwydd wedi effeithio ar baratoadau'r garfan, cyn y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar 25 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023