Carcharu lladron wnaeth fygwth torri bysedd pensiynwr

  • Cyhoeddwyd
Wayne Wren a Michael AnthonyFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd barnwr droseddau Wayne Wren (chwith) a Michael Anthony fel rhai gwirioneddol ofnadwy

Fe wnaeth dau ddyn yn gwisgo mygydau fygwth torri bysedd pensiynwr "fesul un" mewn trosedd "iasoer" a ddisgrifiwyd fel golygfa o ddrama deledu.

Roedd Wayne Wren a Michael Anthony wedi dal cyllell at y gŵr gweddw 78 oed mewn ymgais i gael rhif PIN ei gardiau banc.

Pan wrthododd y pensiynwr, David Westcott, dywedodd y lladron y byddan nhw'n torri ei fysedd i ffwrdd "fesul un".

Cafodd Wren, 42, ac Anthony, 45, eu carcharu am gyfanswm o 32 mlynedd ar ôl cyfaddef lladrad difrifol (aggravated burglary), camgarcharu (false imprisonment), dwyn, a thwyll.

'Chwifio cyllell'

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y ddau wedi torri i mewn i fwthyn diarffordd Mr Westcott ger Casnewydd, am 03:30 ar 29 Hydref 2022.

Cafodd Mr Wescott ei ddeffro gan y ddau yn sefyll wrth ei wely ac yn sgleinio tortsh yn ei wyneb.

Yn ôl yr erlynydd, Abigail Jackson, dywedodd un o'r lladron wrtho beidio symud "neu mi wnawn ni dy ladd".

"Roedd gan Michael Anthony gyllell yr oedd yn ei chwifio ac roedd yn hawlio arian," meddai.

Ar ôl clymu dwylo Mr Westcott a bygwth torri ei fysedd, fe ddatgelodd rif PIN ei gardiau debyd a chredyd.

Tra'r oedd Anthony yn dwyn car Mr Wescott er mwyn mynd at y peiriant twll yn y wal agosaf, arhosodd Wren i gadw golwg ar y pensiynwr bregus.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y ddau hefyd wedi cymryd gemwaith ei ddiweddar wraig, a oedd o werth personol iddo.

Cafodd Anthony ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn tynnu arian o'r twll yn y wal, ac roedd Wren wedi gadael olion bysedd ar flwch gemwaith gwag.

'Fel rhywbeth ar y teledu'

Clywodd y llys bod gan Wren, o Gasnewydd, 48 o euogfarnau blaenorol am 103 o droseddau, yn cynnwys bwrgleriaeth, ymosod ac achosi cynnwrf.

Roedd gan Anthony, oedd heb gyfeiriad sefydlog, 20 o euogfarnau blaenorol am 47 o droseddau, yn cynnwys dedfryd pum mlynedd o garchar am fwrgleriaeth.

Clywodd y llys bod y ddau yn gaeth i gyffuriau, ac roedden nhw'n "edifar" am yr hyn a wnaethant i Mr Wescott.

Dywedodd y Barnwr Shoman Khan: "Rydych wedi cyflawni trosedd wirioneddol ofnadwy. Mae fel rhywbeth y byddech yn ei ddarllen mewn llyfr neu'n ei weld ar y teledu.

"Fe wnaethoch dorri i mewn i dŷ dyn bregus 78 oed a'i roi drwy brofiad dychrynllyd... roedd yn ymddygiad gwarthus."

Cafodd y ddau eu carcharu am 12 mlynedd, a byddan nhw'n gorfod treulio cyfnod estynedig o bedair blynedd ar drwydded ar ôl cael eu rhyddhau.