Teulu 'heb rywle i fyw' ar ôl i ganolfannau croeso gau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Olena a Kateryna
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olena a'i merch, Kateryna, yn byw yn Abertawe

Ar ôl saith mis yn byw mewn gwesty yn Abertawe mae teulu o Wcráin yn poeni am drefniadau llety ar eu cyfer ar ôl mis Mawrth.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd 'Canolfannau Croeso', sydd wedi cartrefu ffoaduriaid o Wcráin ers i'r rhyfel ddechrau yno flwyddyn yn ôl, bellach yn cau yn raddol yng Nghymru er mwyn eu symud i "lety hir dymor". 

Mae Olena, sy'n 38, ei merch Kateryna, 13, a'i mam 69 oed wedi ffoi o brifddinas Wcráin, Kyiv ac yn byw yn un o'r canolfannau croeso yn Abertawe.

Ond maen nhw ar ddeall gan Gyngor Dinas Abertawe nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer llety cymdeithasol ac, ar y funud, does ganddyn nhw unlle arall i fynd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Abertawe fod yr awdurdod eisoes wedi llwyddo i ddarparu llety i nifer o deuluoedd o Wcráin yn y sector rhentu preifat.

'Cymaint yn ddirgelwch i mi'

Dywedodd Olena: "Rwy'n teimlo dan straen enfawr, mae'r ansicrwydd ynglŷn â lle fydd ein cartre' yn bryderus iawn, ac rwy' hefyd yn poeni bob dydd am y rhyfel yn Wcráin.

"Does gen i ddim syniad pryd y byddwn ni yn gallu mynd 'nôl adref."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Olena, Kateryna (merch) a Kateryna (nain)

Mae hi yn poeni hefyd am nad yw'n bosib cynllunio o flaen llaw wrth drefnu addysg ar gyfer ei merch.

"Mae cymaint o bethe ar hyn o bryd yn ddirgelwch i mi, er enghraifft a fydd fy merch yn dal i fynd i'r ysgol, a fydd yna help meddygol ar gyfer fy mam, a fyddwn ni yn gallu parhau â'n dosbarthiadau dysgu Saesneg."

Fe gaeodd y "canolfannau croeso" eu sefydlu mewn adeiladau fel gwestai gan Lywodraeth Cymru ar ôl y rhyfel yn Wcráin ar gyfer ffoaduriaid.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 3,000 o Wcrániaid wedi derbyn help gan Lywodraeth Cymru o dan y drefn.

Mae Olena yn dweud iddi dderbyn llythyr ar 6 Chwefror gan Lywodraeth Cymru yn dweud y byddai'n rhaid i'r teulu, ar ben eu hunain, ddod o hyd i lety parhaol erbyn 10 Mawrth.

Os nad yn llwyddiannus fyddai'n rhaid iddyn nhw adael y gwesty erbyn 17 Mawrth.

Gofynnodd i Gyngor Abertawe os oedd yn bosib i gael llety cymdeithasol, ond mae'n dweud iddi gael gwbod nad oedd Wcrániaid yn gymwys ar eu cyfer.

Bywyd yn 'wahanol iawn'

Mae hi'n hiraethu am ei chartref yn Wcráin ac yn dweud ei bod hi'n gweithio fel cyfreithiwr yn Kyiv ac yn mwynhau bywyd yn mynd i'r theatr a thai bwyta.

Roedd ei merch yn astudio yn un o ysgolion uwchradd gorau Kyiv.

Ond mae bywyd yn wahanol iawn nawr ac mae'r tair ohonyn nhw yn byw mewn un ystafell gwesty.

Disgrifiad o’r llun,

"Pan ei bod hi yn gwneud ei gwaith cartref, ry' ni i gyd yn yr un ystafell"

"Er bod y staff yma yn wych," medd Olena, "dyw bywyd ddim yn rhwydd.

"Ry'ch chi methu coginio bwyd na golchi dillad, ac mae'n anodd i Kateryna.

"Pan ei bod hi yn gwneud ei gwaith cartref, ry' ni i gyd yn yr un ystafell."

Dywedodd Kateryna, dan emosiwn, am ei bywyd yng Nghymru: "Rwy' wedi cael croeso gwych yn yr ysgol gan y staff a'r disgyblion.

"Os bydd rhaid i fi symud ysgol eto fe fydda i'n colli fy ffrindiau.

"Rwy' wir yn gweld eisiau ac yn colli mynd i'r ysgol a chwrdd â fy ffrindiau yn Kyiv."

Mae Olena wedi gwneud cais am lety cymdeithasol, ond mae'n dweud nad yw ei chais wedi cael ei brosesu ac mae opsiynau eraill o ran trefniadau llety wedi eu "gwrthod".

'Cyfnod anodd i bawb'

Un sydd yn cynorthwyo teuluoedd yn ardal Abertawe yw y Tad Jason Jones o Eglwys y Galon Sanctaidd yn Nhreforys.

Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Jason Jones: "Pob dydd ar y newyddion mae'r sefyllfa yn newid"

"Mae nifer o brobleme yn y byd ar hyn o bryd gan gynnwys daeargryn erchyll Twrci a Syria," meddai.

"Mae yn bwysig ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth am y rhyfel, a ninne yn agosáu at flwyddyn ers iddo ddechrau.

"Pob dydd ar y newyddion mae'r sefyllfa yn newid, ac mae'n gyfnod anodd a phobol yn poeni.

"Mae un teulu o Wcráin yn byw fan hyn yn ardal Treforys ac mae'r ddau fachgen dal yn Wcráin yn y rhyfel, felly cyfnod trist ac anodd i bawb."

'Tîm uniongyrchol'

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod y "bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn parhau i fod yn hollbwysig wrth groesawu".

Tra dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Mae gennym dîm sy'n uniongyrchol gefnogi ffoaduriaid Wcráin i symud i lety mwy addas.

"Mae hyn yn cynnwys sicrhau llety rhent preifat drwy drafod ar eu rhan gyda landlordiaid cofrestredig a, lle bo angen, cynorthwyo gyda chymorth priodol, gan gynnwys rhent ymlaen llaw a bondiau.

"Rydym eisoes wedi llwyddo i ddarparu llety i nifer o deuluoedd o Wcráin yn y sector rhentu preifat."