'Syniad ffôl' cau canolfannau croeso i bobl o Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffoaduriaid yn croesi'r ffin ar droed o Wcráin i Korczowa yng Ngwlad PwylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn cartrefu ffoaduriaid o Wcráin

Mi fydd 'Canolfannau Croeso', sydd wedi cartrefu ffoaduriaid o Wcráin, yn cau yn raddol yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cam yn rhan o ymdrech i symud ffoaduriaid o Wcrain i "lety hir dymor", gan ddweud nad oedd y penderfyniad yn un yn ymwneud â chyllid.

Ond mae pryderon wedi eu codi gan un Aelod Seneddol am y penderfyniad sy'n dweud fod y polisi wedi ei wneud 'heb feddwl'.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw un sydd methu canfod llety drwy deuluoedd sydd wedi bod yn cartrefu Wcreiniaid, neu drwy lety preifat neu gymdeithasol, yn derbyn "llety arall".

'Ddim yn ymwneud â chyllid'

Pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin fe gafodd cartrefi ledled Cymru y cyfle i wahodd ffoaduriaid i aros gyda nhw.

Cafodd canolfannau croeso - adeiladau fel gwestai wedi eu hail bwrpasu - hefyd eu hagor.

Ffynhonnell y llun, BBC/Goktay Koraltan
Disgrifiad o’r llun,

Milwyr Wcráin yn amddiffyn dinas Bakhmut yn erbyn ymosodiadau lluoedd Rwsia

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae dros 3,000 o Wcreiniaid wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru dan y drefn.

Ond mewn datganiad fe gadarnhaodd llefarydd eu bwriad i gau'r canolfannau yn raddol, wrth geisio canfod llety hir dymor i Wcreiniaid sydd wedi ffoi i Gymru.

"Mae'r cau yn rhan o ymdrech i helpu pobl o Wcráin i symud at lety hir dymor," meddai llefarydd. "Nid yw hyn yn ymwneud â chyllid."

'Syniad ffôl'

Ond mae Hywel Williams, yr Aelod Seneddol dros Arfon, yn dweud bod y cynllun yn gweithio fel mae o ar hyn o bryd.

"Mae'n fy nharo fel syniad ffôl," meddai. "Mae'r ganolfan fel mae o ar hyn o bryd, fel yr un yng Ngwynedd, yn gweithio'n dda iawn.

"'Dan ni wedi gweld cydweithredu da iawn rhwng yr awdurdodau cyfrifol, a dwi wedi ymweld â'r ganolfan.

"Mae'r bobl sydd yna ddigon hapus ac yn ailadeiladu eu bywydau.

Disgrifiad o’r llun,

Hywel Williams AS: "Fe ddylai'r Llywodraeth yng Nghaerdydd baratoi rhywle cyn iddyn nhw gau y lle lawr"

"Mae'n ddigon hawdd dweud bod pobl am symud allan i'r gymuned.

"Ond os 'dan ni am wneud polisi ystyrlon nid un fyrbwyll, fe ddylai'r llywodraeth yng Nghaerdydd baratoi rhywle cyn iddyn nhw gau y lle lawr.

"Dwi'n meddwl fod hyn yn fater o rywun yn gwneud datganiad heb feddwl am y canlyniadau."

'Blaenoriaeth ydi diogelwch a lleisiant unigolion bregus'

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n falch o gynnig "noddfa i gymaint o bobl wrth ymateb i'r rhyfel".

"Mae'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn parhau i fod yn hollbwysig wrth groesawu Wcreiniaid i Gymru a'u helpu i ganfod llety hir-dymor a'u cefnogi," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y byddai unrhyw un sydd ddim yn gallu symud i gartrefi sy'n eu croesawu, neu i dai preifat neu gymdeithasol, yn derbyn cynnig am lety arall.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd maen nhw wedi derbyn "cadarnhad swyddogol gan Lywodraeth Cymru" y bydd y Ganolfan Groeso yng Ngwynedd yn cau yn yr haf.

"Ein blaenoriaeth ydy diogelwch a lleisiant yr unigolion bregus," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig