‘Dim problem foesol’ i Abertawe recriwtio 107 nyrs o India

  • Cyhoeddwyd
Nyrsys o India gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pennaeth Addysg a Recriwtio'r bwrdd iechyd 'mwy na ddigon o nyrsys hyfforddedig' yn India

Bydd dros 100 nyrs o India yn ymuno ag Ysbyty Treforys ym Mae Abertawe, wedi i'r bwrdd iechyd fynd yno i ddod o hyd i ragor o staff.

Ar ôl ddigwyddiad recriwtio yn Kochi, bydd y bwrdd iechyd yn cyflogi 107 nyrs a fydd yn dechrau eu swyddi ym mis Ebrill.

Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Addysg a Recriwtio'r bwrdd iechyd, bod yna "fwy na digon o nyrsys hyfforddedig" yn India ac felly na fydd y recriwtio'n gadael y wlad honno'n brin.

Cyn dechrau eu swyddi bydd y nyrsys yn gorfod gwneud cwrs hyfforddi pedair wythnos ym Maglan ac yna eistedd arholiad.

Mae ganddyn nhw sgiliau cymysg, gydag amrywiaeth o nyrsys meddygol, llawfeddygol ac eraill wedi'i hyfforddi i weithio mewn theatrau llawdriniaeth.

Dywedodd Ms Jones: "Fel rhan o'r ymgyrch recriwtio nyrsio dramor, fe benderfynon ni gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb sy'n rhywbeth nad oedden ni'n gallu ei wneud yn ystod anterth y pandemig.

"Fe wnaeth y daith ein galluogi ni ddarganfod ychydig mwy am yr ymgeiswyr a chael mewnwelediad mwy personol, a daethom o hyd i ymgeiswyr o safon gydag ystod o brofiad o un i 15 mlynedd o brofiad."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn cyflogi tua 32 nyrs rhyngwladol bob pum wythnos er mwyn llenwi swyddi

Mi fydd yr unigolion cafodd eu recriwtio yn gweithio mewn rolau band 5 sydd fel arfer ar gyfer nyrsys sydd newydd gymhwyso.

Er mwyn llenwi'r bylchau yma ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn cyflogi tua 32 nyrs rhyngwladol bob pum wythnos.

Ychwanegodd Ms Jones bod y "bwlch nyrsys Band 5 yn cau, felly rydym yn gwneud cynnydd".

Mae'n fater sy'n cael ei deimlo o amgylch y DU," meddai.

Er bod y daith recriwtio wedi helpu cryfhau niferoedd staff y bwrdd iechyd, maen nhw'n dal i groesawu mwy o fyfyrwyr nyrsio er mwyn codi lefelau staffio eto.

'Angen nyrsys o dramor'

"Mae angen nyrsys o dramor yma, ac iddyn nhw mae'n gyfle i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a phrofi ffordd o fyw gwahanol," dywedodd Ms Jones.

"Mewn gwledydd fel India mae yna fwy na digon o nyrsys hyfforddedig. Yn foesegol, gallwn recriwtio o'r gwledydd hyn gan nad ydyn nhw'n cael eu gadael yn brin o nyrsys o safon.

"Yn aml, dim ond contractau 12 mis y mae'r nyrsys rydyn ni'n eu cyfweld wedi'u cael yn eu gwledydd cartref, felly maen nhw hefyd yn edrych ar ymrwymiadau mwy hirdymor, y gallwn eu cynnig.

"Mae yna wledydd y bydden ni'n eu hystyried ar 'restr goch' ac sy'n fyr o ran nyrsys, felly dydyn ni ddim yn recriwtio o fan yna."

Ychwanegodd y bwrdd iechyd y byddan nhw'n ystyried ailymweld ag India, ac maen nhw hefyd wedi cynnal digwyddiadau recriwtio yn Ynysoedd y Philipinas dros y blynyddoedd diwethaf.

Pynciau cysylltiedig