'Anabledd ddim yn anallu' yn ôl meddyg mewn cadair olwyn
- Cyhoeddwyd
Doedd ysbytai "ddim eisiau gwybod" am anghenion arbennig meddyg anabl oedd yn chwilio am waith wedi iddi gael ei pharlysu mewn damwain car.
"Roedden nhw jyst eisiau rhywun i lenwi'r swydd yn hawdd a chyflym heb iddyn nhw orfod gwneud unrhyw beth," meddai Dr Georgina Budd, wrth siarad am ei hymgais i ddod o hyd i swydd yng Nghymru.
Yn y diwedd, fe ddaeth yn feddyg teulu mewn practis oedd yn medru addasu i'w hanghenion.
Dywedodd byrddau iechyd Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol.
Ysbytai 'heb eu dylunio i bobl anabl'
Dywedodd Georgina, fu'n gweithio'n adran frys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, am dair blynedd fel rhan o'i hyfforddiant, na ddylai hi wynebu "terfynau oherwydd fy anabledd".
"'Dw i wedi bod mewn sefyllfaoedd ble 'dw i wedi gorfod delio gydag argyfwng meddygol, a 'dw i ddim yn unrhyw llai effeithiol oherwydd mod i mewn cadair olwyn," meddai.
Ond dywedodd ei bod hi wedi cael trafferth pan geisiodd ddod o hyd i swydd lawn amser mewn adran frys.
Fe wnaeth un ysbyty, meddai, gynnig "sifft dreial" di-dâl iddi.
"Roedd e'n cael ei gynnig i mi gydag iaith 'fel bod modd i ni weld sut allen ni dy helpu'," meddai.
"Ond beth ddaeth drosto oedd bod ni'n gallu gweld faint o addasiadau fyddai'n rhaid i ni wneud, i weld os yw e werth e'n ariannol i ni newid pethau i ti."
Dywedodd nad oedd ysbytai wedi'u dylunio chwaith i helpu pobl anabl, er eu bod nhw'n "rhan fawr o'n gwasanaeth ni" - gyda llawer o gypyrddau ac hyd yn oed adeiladau allan o'u cyrraedd.
Roedd oriau gwaith hefyd yn rhwystr, meddai, gan ei bod hi'n cymryd hirach iddi gael yn barod yn y bore, ac felly'n anoddach iddi hi weithio "sifft 08:00 fel rhai doctoriaid".
"Roedd hwnna'n broblem achos bod y rowndiau cyntaf o gwmpas y wardiau yn digwydd yn y bore," meddai. "Mae'n anodd cael pobl i feddwl yn wahanol am anabledd a bod yn feddyg anabl."
'Wyt ti'n un o'r cleifion?'
O Wiltshire yn wreiddiol, dechreuodd Georgina astudio yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd yn 2009.
Yn 2017, ar y ffordd i sifft yn Ysbyty Glangwili, chwythodd teiar ar ei char ac fe darodd bolyn ar 50mya wrth geisio osgoi traffig.
A hithau'n 30 oed ar y pryd, roedd wedi ei pharlysu o'i chanol i lawr, ac yn "meddwl bod fy ngyrfa ar ben".
"Mae'n galed ac mae 'na heriau," meddai. "Ond dwi'n cario 'mlaen dweud wrth fy hun, dyw fy mywyd i ddim ar ben."
Fe wnaeth hi gwblhau ei hyfforddiant yn Ysbyty Glangwili fis Awst y llynedd, ond ar ôl methu â dod o hyd i swydd fe newidiodd i fod yn feddyg teulu.
Mae hi bellach yn gweithio ym meddygfa Tŷ Calon Lân yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, sy'n golygu mwy o hyblygrwydd a pheidio gorfod gweithio'n rhy gynnar.
Mae'n cofio'r tro cyntaf iddi weld claf ar ôl iddi ddechrau gweithio mewn cadair olwyn.
"Fe edrychodd hi arna i ac... roedd hi fel: 'O, helo bach. Wyt ti'n un o'r cleifion?'," meddai. "'Na, fi yw eich doctor heddiw.'"
Empathi gyda chleifion
Bellach mae Georgina Budd yn gyd-gadeirydd meddygon iau i'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru, ac yn gwneud gwaith ymchwil gyda Phrifysgol Abertawe i anghenion iechyd meddwl myfyrwyr meddygol.
"Mae bod yn feddyg teulu yn golygu mod i'n gallu bod yn fwy actif mewn gwleidyddiaeth feddygol ac ymchwil, a dal gweld fy nghleifion a chael effaith dda arnyn nhw," meddai.
Mae hi hefyd yn gadeirydd ymddiriedolwr gydag Adapt Gateway - elusen sy'n mentora a chefnogi plant ag anableddau.
"Mewn byd delfrydol dylai unrhyw blentyn sydd eisiau bod yn feddyg ac sydd gydag anabledd beidio teimlo nad yw hynny'n bosib iddyn nhw," meddai.
"Mae angen deall nad yw anabledd yn golygu anallu. Dyw bod mewn cadair olwyn ddim yn cyfyngu ar fy ngallu fel doctor."
Dywedodd bod ei chyfnod hi yn yr ysbyty yn adfer o'i damwain hefyd wedi rhoi profiad iddi o allu uniaethu gyda chleifion.
"Mae cael mwy o ddoctoriaid sydd wedi bod drwy brofiadau iechyd gwael, salwch cronig, anabledd, yn bwysig er mwyn ehangu dealltwriaeth meddygon o beth mae eu cleifion yn mynd drwyddo," meddai.
Ychwanegodd: "Fe alla i dreulio'r 60 mlynedd nesaf yn drist am nad ydw i'n gallu sefyll, neu fe alla i wneud rhywbeth am hyn."
'Creu awyrgylch cynhwysol'
Dywedodd y saith bwrdd iechyd yng Nghymru eu bod yn dilyn proses recriwtio sy'n cynnig "cyfleoedd hafal a theg i bawb", a bod sicrwydd o gyfweliad i unrhyw ymgeisydd anabl sy'n cyrraedd y safon disgwyliedig.
"Dim ond ar ôl i restr fer gael ei llunio y bydd modd gweld hunan-ddatganiad yr ymgeisydd [o'u hanabledd], sy'n rhoi gwybod i'r rheolwr apwyntio y gallai fod angen gwneud addasiadau priodol," meddai Lisa Gostling o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn ceisio creu awyrgylch cynhwysol i staff a chleifion.
"Mae gennym ni Arbenigwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod y gwaith yma'n cael ei flaenoriaethu," meddai.
"Rydym hefyd yn dilyn y gofynion sy'n cael eu gosod yn amcanion y Comisiynydd Cydraddoldeb ac Hawliau Dynol, yn ogystal â chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar anabledd."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i wefan Siarad Anabledd BBC Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023