Troseddau lluniau cam-drin plant wedi codi 43% yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
merch ar ei ffon symudolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae troseddau yn ymwneud â lluniau cam-drin plant wedi cynyddu 43% yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl elusen plant.

Dywed yr NSPCC bod y drosedd yn cael eu "normaleiddio" ac maen nhw'n galw am newidiadau i'r Bil Diogelwch Ar-lein, sy'n mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd.

Yn ystod 2021-22 cofnodwyd 2,061 o achosion gan heddluoedd Cymru lle'r oedd delweddau anweddus ym meddiant rhywun neu wedi cael eu rhannu.

Roedd hyn o'i gymharu â 1,437 yn 2016-17, meddai'r NSPCC - cynnydd o 624, neu 43%.

Cofnodwyd 30,000 o droseddau cyffelyb ar draws y DU.

Dyma'r ffigyrau ar gyfer lluoedd heddlu Cymru ar gyfer y ddau gyfnod:

  • Gwent: 259 o droseddau yn 2016-17 a 402 yn 2020-21

  • Dyfed-Powys: 363 yn 2016-17 a 356 yn 2020-21

  • Gogledd Cymru: 287 yn 2016-17 a 514 yn 2020-21

  • De Cymru: 528 yn 2016-17 a 789 yn 2020-21

Dywed yr NSPCC bod diffyg rheoleiddio gwefannau cymdeithasol "yn bwydo'r raddfa ddigynsail o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein", a bod troseddau pellach yn digwydd wrth i ddelweddau gael eu rhannu.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i greu rôl adfocad statudol dros ddiogelwch plant yn y Bil Diogelwch Ar-lein, i fod yn llais cryf i'w cynghori a'u cynrychioli mewn unrhyw gamau rheoli pellach.

Roedd swydd o'r fath "yn hanfodol fel system rhybudd cynnar i adnabod risgiau cam-drin plant a sicrhau eu bod ar radar y cwmnïau a'r rheoleiddiwr Ofcom", meddent.

Yn ôl yr NSPCC, Snapchat yw'r wefan gymdeithasol sy'n cael ei defnyddio fwyaf gan droseddwyr i rannu delweddau cam-drin plant - 43% o achosion.

Roedd gwefannau Facebook, Instagram a WhatsApp yn cael eu defnyddio mewn 33% o achosion.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd prif weithredwr yr NSPCC, Syr Peter Wanless, bod y ffigyrau'n codi braw, ond nad oeddynt prin yn crafu'r wyneb o ran yr hyn y mae plant yn ei ddioddef ar-lein.

"Rydym yn clywed gan bobl ifanc sy'n teimlo'n ddiymadferth ac wedi cael eu gadael i lawr wrth i risgiau cam-drin rhywiol gael eu normaleiddio i genhedlaeth o blant," meddai.

"Trwy greu adfocad diogelwch plant sy'n sefyll i fyny dros blant a theuluoedd gall y llywodraeth sicrhau bod y Bil Diogelwch Ar-lein yn rhwystro cam-drin yn systemig.

"Byddai'n anfaddeuol pe byddwn, ymhen pum mlynedd, yn dal i geisio dal i fyny â'r cam-drin hollbresennol sydd wedi cael ei ganiatáu i ymledu ar wefannau cymdeithasol."