Pryder am afon yn Sir Gâr wedi lladrad 70,000 litr o ddisel
- Cyhoeddwyd
Mae disel wedi cael ei golli i gaeau ac afon yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn lladrad o tua 70,000 litr o safle olew dros y penwythnos.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod rhywfaint o'r olew wedi gollwng o danc, gan lifo i gaeau cyfagos yn ogystal â Nant Pibwr, sy'n llifo i Afon Tywi.
Mae adroddiadau hefyd fod y gollyngiad, a ddigwyddodd yn ardal Nantycaws, eisoes yn effeithio ar bysgod yn yr afon.
Fe gadarnhaodd Oil4Wales fod y digwyddiad wedi dod o ganlyniad i ladrad ar eu safle yn Nantycaws nos Wener.
'Lladron yn gadael pibelli'
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod "y person oedd yn gyfrifol am y lladrad wedi gadael pibellau ar hyd y tir, gan achosi'r gollyngiad".
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad.
"Rydyn ni'n apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un allai fod â lluniau dashcam o'r ardal, yn ogystal â'r llecyn ar ochr ffordd yr A48 i'r dwyrain, ar ôl yr orsaf betrol, rhwng 22:30 y noson honno a 00:30 fore Sadwrn," meddai'r llu.
"Fe wnaeth y lladron redeg pibell drwy gae i mewn i'r llecyn ar ochr y ffordd, gyda swm sylweddol o ddisel yn gollwng i mewn i'r cae."
Mae'r heddlu hefyd yn chwilio am luniau dashcam o'r ardal o gwmpas safle Oil4Wales rhwng 23:30 nos Iau, 14 Chwefror a 00:30 y bore canlynol.
Bellach mae timau glanhau arbenigol wedi bod lawr ger Nant Pibwr, gan osod rhwystrau yn yr afon i geisio dal unrhyw olew.
"Cawsom ein hysbysebu am lygredd olew yn Nant Pibwr ddydd Sadwrn, ac fe gafodd swyddogion eu danfon i ymchwilio i'r digwyddiad," meddai Andrea Winterton, rheolwr tactegol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae tua 70,000 litr o ddisel wedi cael ei golli o danc storio, gyda llawer ohono wedi effeithio ar gaeau cyfagos ac wedi mynd i mewn i'r afon."
Ychwanegodd Ms Winterton bod "pysgod mewn poen" wedi cael eu gweld, a bod asesiadau pellach wedi eu cynnal i "fesur faint o'r afon sydd wedi'i effeithio".
"Mae swyddogion a chontractwyr arbenigol yn bresennol ac yn gweithredu cynllun er mwyn rheoli'r sefyllfa sy'n cynnwys lleoli boom [rhwystr er mwyn atal olew rhag lledaenu] i lawr yr afon a ffosydd atal."
Yn 2016 bu digwyddiad tebyg yn yr un ardal, wedi i 140,000 litr o gerosîn ollwng i'r nant o bibell danwydd yn berchen i gwmni Valero.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022