Gollwng 500 baril o olew i'r môr ger arfordir y gogledd

  • Cyhoeddwyd
arfordir y gogleddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gollyngwyd yr olew i'r môr brynhawn Llun

Mae oddeutu 500 baril o olew wedi gollwng o bibell ger arfordir y gogledd.

Cafodd y bibell, sy'n rhedeg rhwng dau blatfform o'r enw Conwy a Douglas, ei chau wedi'r gollyngiad brynhawn Llun ac mae'n parhau ar gau.

Dywedodd y cwmni sy'n rhedeg y system, ENI UK, eu bod yn dal i geisio gwirio manylion yr hyn ddigwyddodd tua 30 milltir i'r gogledd o blatfform Conwy. Ni chafodd neb ei anafu.

Ychwanegodd y cwmni bod yr holl awdurdodau perthnasol wedi cael eu hysbysu, ac y byddai mwy o wybodaeth pan fydd mwy o fanylion ar gael.

Mae gollyngiad o tua 500 baril yn cyfateb i rhyw 80,000 litr.

Mae'r Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau yn dweud bod eu tîm gwrth-lygredd ynghyd ag Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol y llywodraeth yn monitro ymateb ENI a'u bod yn "cynorthwyo awdurdodau partner lleol mewn ymateb" i'r digwyddiad.

Mae cyfadeilad Douglas yn cynnwys tri phlatfform, ac mae wedi'i leoli tua 15 milltir oddi ar arfordir y gogledd.

Pynciau cysylltiedig