Cantores o Wcráin yn canu i ddiolch am gefnogaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Khrystyna Makar, cantores o Wcráin yn canu Anfonaf Angel

I deuluoedd o Wcráin sydd wedi ffoi rhag ymosodiadau Rwsia, mae Cymru wedi cynnig cartref newydd.

Un o'r rheiny sydd wedi ymgartrefu yma ydy Khrystyna Makar, cantores soprano sydd wedi perfformio ar lwyfannau tai opera mwyaf Ewrop.

Bu'n rhaid iddi adael Lviv, gadael ei gŵr a gadael ei rhieni, a ffoi gyda'r plant i le diogel.

Ym mis Mehefin 2022, fe gyrhaeddodd hi Wersyll yr Urdd yn Llangrannog fel rhan o gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.

Roedd yn gyfnod anodd i deuluoedd a oedd wedi gadael anwyliaid ar ôl yn Wcráin. 

Disgrifiad o’r llun,

Khrystyna Makar gyda'u meibion Denys, 17, a Lukian, 12

Erbyn heddiw, mae Khrystyna a'i meibion Denys, 17, a Lukian, 12, yn byw mewn fflat yn Aberystwyth.

Mae'r bechgyn yn mynychu ysgol uwchradd leol, er eu bod yn dal i hiraethu am eu cartref.

Mae Vlodomyr, gŵr Khrystyna a thad y plant yn dal i fyw a gweithio yn Lviv, yng ngorllewin Wcráin lle y targedodd Rwsia eu taflegrau'n ddiweddar. Maen nhw mewn cysylltiad bob dydd.

'Gweld eisiau popeth'

Dywedodd Khrystyna am y rhyfel: "Rydyn ni'n credu y cawn ni fuddugoliaeth, oherwydd mae'r gwir ar ein hochr ni, mae Duw ar ein hochr a'r byd i gyd ar ein hochr ni. Does dim ffordd arall.

"Rydyn ni'n amddiffyn gwledydd democrataidd Ewrop gyfan rhag Rwsia a byddwn yn ymladd hyd nes i ni ennill.

"Rydym dal angen llawer o help gan ein cynghreiriaid, ond byddwn ni'n cadw'r byd i gyd yn ddiogel wrth dalu gyda'n bywydau ni."

Mae ei mab Denys yn gobeithio mynd yn ôl i Wcráin i fynychu'r brifysgol y flwyddyn nesaf. Yn 17 oed, mae'n dweud y byddai'n ymladd dros ei wlad pe bai rhaid.

"Does dim ots sut olwg sydd ar eich dinas, i mi o leiaf, dyna sut rydw i'n teimlo," meddai.

"Y bobl, dyna'r prif reswm dwi eisiau mynd yn ôl. Dwi'n gweld eisiau fy nghartref, fy nheulu. Dwi'n gweld eisiau popeth yno."

Disgrifiad o’r llun,

Khrystyna Makar yn perfformio yn Eglwys Sant Mihangel yn Aberystwyth

Y llwyfan yw cartref Khrystyna, ac mae'n gobeithio ailddechrau ei gyrfa yng Nghymru.

Cyn y rhyfel, cafodd gyfle i ganu mewn tai opera yn Fienna, Berlin, Amsterdam a llawer iawn o lefydd eraill. Mae hi bellach yn canu yn ei fflat yn Aberystwyth.

'Canu i ddiolch am gefnogaeth'

"Mae'n rhaid i mi fod yn gryf er mwyn y plant. Hoffwn gwrdd â [gweddill] ein teulu eto a gobeithio y daw heddwch yn Wcráin yn fuan.

"Mae'n anodd dechrau eto mewn gwlad newydd oherwydd rhaid i chi brofi eich hunan eto.

"Rwyf wedi dysgu byw bywyd gwahanol, siarad iaith newydd ond dwi'n meddwl y byddai'n edrych yn ôl ar y profiad fel un cadarnhaol."

Ffynhonnell y llun, Khrystyna Makar

Mae'n gobeithio perfformio mwy ac ailddechrau hyfforddi canu, sef ei gwaith cyn gadael Wcráin. 

Cafodd y cyfle i ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y llynedd ac mewn digwyddiadau elusennol eraill lle mae'n ceisio canu cân yn y Gymraeg bob tro.

Bu'n perfformio Blaenwern yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a Suo Gân mewn cyngerdd carolau elusennol yn Aberystwyth dros y Nadolig.

"Mae'n ddiddorol iawn dysgu caneuon Cymraeg," meddai. "Dyma fy ffordd i o ddweud 'diolch i Gymru am y gefnogaeth'."

'Waw. O ble mae'r llais yn dod?'

Mae Lowri Jones, cyfarwyddwr gwersyll yr Urdd yn Llangrannog "yn cofio'r teulu'n cyrraedd ganol nos, yn emosiynol iawn wedi bod yn teithio am ddyddiau a gorfod gadael ei gŵr".

"Buon ni'n trio rhoi lot o gymorth iddyn nhw yn y dyddiau a'r wythnosau cyntaf yna gan roi beth bynnag oedd angen arnyn nhw i wneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel. 

"Yn fuan iawn, daethon ni i edrych arnyn nhw fel unigolion. Dwi'n cofio meddwl, waw, o ble mae'r llais yna'n dod. Khrystyna oedd hi, yn lolfa Hafod yn cynnal ei gwersi canu. 

"Fe gafodd gyfle i ganu yn Eisteddfod Tregaron gyda'r gymuned leol yn rhoi llawer o gefnogaeth iddi hefyd. Mae wedi perfformio llawer ers hynny yn lleol a thu hwnt."

Bydd Khrystyna Makar yn perfformio nesaf yn y Senedd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.