Tri safle yn cael eu hystyried ar gyfer ysbyty'r gorllewin
- Cyhoeddwyd
Tri safle sy'n cael eu hystyried bellach ar gyfer ysbyty newydd i orllewin Cymru - yn wreiddiol roedd yna bump.
Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, a defnyddio'r ysbytai hynny fel rhai cymunedol lleol - gyda gwasanaethau triniaeth ddydd, therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gwneud cais busnes am £1.3bn ar gyfer yr ysbyty newydd ac at welliannau ar safleoedd eraill.
Ddydd Iau fe ddechreuodd y cyfnod ymgynghorol i'r safleoedd a fydd yn para tan 19 Mai.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ond does dim disgwyl i'r ysbyty newydd agor tan o leiaf 2029.
Mae dau o'r safleoedd posib ger Hendy-gwyn a'r llall ar gyrion Sanclêr.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn gobeithio y bydd y cynllun yn dod â gofal yn nes at gartrefi pobl.
Ychwanegodd llefarydd bod y cynlluniau yn cynnwys canolfannau iechyd a gofal wedi'u hintegreiddio a'u bod wedi'u cynllunio ar y cyd â chymunedau lleol ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.
Ym mis Chwefror 2022 fe wnaeth 200 o bobl brotestio yn erbyn cynlluniau i israddio ysbyty Llwynhelyg.
Roedd ymgyrchwyr yn poeni y gallai'r daith ychwanegol o rannau o Sir Benfro i'r ysbyty newydd yn Sir Gaerfyrddin gostio bywydau.
Wrth lansio'r cyfnod ymgynghori dywedodd y Cadeirydd Maria Battle bod y bwrdd am greu "ysbyty cynaliadwy addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
"Fe fydd y cynllun," meddai, "yn gwella'r gwasanaethau gofal arbenigol a all Hywel Dda eu darparu ac yn delio â heriau hirdymor fel hen ysbytai, cynnal a chadw cofnodion meddygol a recriwtio staff."
'Ddim yn ffafrio unrhyw safle'
Dywedodd y Prif Weithredwr Steve Moore: "Dydyn ni ddim yn ffafrio unrhyw safle a dydyn ni ddim wedi prynu tir na safle ar gyfer y datblygiad.
"Mae prynu safle a sicrhau bod y cynllun yn digwydd yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, a dyw hynny ddim wedi cael ei gadarnhau hyd yn hyn."
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynllunio, Lee Davies, y bydd nifer o ganolfannau 'galw i mewn' ar draws ardal y bwrdd iechyd er mwyn i bobl gael golwg ar y cynlluniau.
Daw'r newidiadau arfaethedig wedi rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal a phrinder difrifol o staff.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018