Y croeso Cymreig 'wedi rhoi nerth i bobl Wcráin'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Wcreiniaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 6,400 o Wcrainiaid wedi cael lloches yng Nghymru ers dechrau'r rhyfel flwyddyn yn ôl

Mae cymorth a chroeso cynnes Cymru i Wcrainiaid "wedi rhoi nerth i'r bobl", yn ôl myfyrwraig o Wcráin yng Ngheredigion.

Fe ddaeth Anastasiia Patiuk, 22, a Valeriia Piven, 24, o Kiyv i gampws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan fis Hydref y llynedd.

Daeth y ddwy i Gymru i astudio ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddilyn cwrs ôl-radd mewn dinasyddiaeth byd-eang ac arweinyddiaeth.

Blwyddyn ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin, mae 12 mis yn ôl yn teimlo fel byd arall i Anastasiia.

"Mae blwyddyn diwetha'n teimlo fel bywyd arall imi," meddai. "Ma'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwahanu fy mywyd i gyn ac ar ôl [y rhyfel]."

'Teimlo cariad a diolchgarwch'

Mae'r cymorth mae Cymru wedi ei roi i Wcrainiaid "wedi rhoi nerth i'r bobl" yn ôl Anastasiia, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers cyrraedd pedwar mis yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anastasiia Patiuk yn ddiolchgar i bobl Cymru am helpu cynnal hi a'i chydwladwyr

"Dwi'n dysgu Cymraeg. Dwi eisiau dweud diolch wrth [bobl] Cymraeg. Mae beth rydych chi'n 'neud mor bwysig ac yn helpu ni i aros yn gryf, felly diolch yn fawr."

Er bod y ddau'n mwynhau eu hastudiaethau, mae'n anodd anghofio am deulu a ffrindiau adref. Mae cariad Anastasiia yn ddoctor ar y rheng flaen yng nghanol y brwydro.

"Mae'n gryf ac yn ddewr iawn - mae'n ysbrydoli fi'n fawr iawn," dywedodd.

"Dwi'n teimlo cariad a diolchgarwch tuag at fy nheulu, fy nghariad, pawb ar y rheng flaen."

'Teimlo cryfder' anwyliaid yn Wcráin

Mae poeni am ddiogelwch am deulu a pherthnasau yn brofiad sydd bellach yn gyfarwydd.

Ond i Valeriia, mae derbyn negeseuon neu alwadau ffôn o Wcráin yn dweud eu bod yn ddiogel yn galondid mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae clywed sut mae perthnasau'n ymdopi â'r sefyllfa yn ei mamwlad yn destun calondid i Valeriia Piven

"Maen nhw fel arfer yn clywed synau sirens. Erbyn hyn maen nhw'n gallu gwahaniaethu rhwng taflegrau ac awyrennau.

"Yn ddiweddar maen nhw wedi cael problemau gyda thrydan fel dinasoedd eraill yn Wcráin.

"Dwi'n meddwl fy mod yn teimlo'u cryfder nhw. A phryd dwi'n clywed eu bod nhw'n gryf dwi'n teimlo llawer mwy hyderus yn fy hun, ynddon nhw a dyfodol Wcráin."

'Pawb yn eu nabod' ar y campws

Yn ôl Gwilym Dyfri Jones, Profost y campws, mae'n braf gweld y ddwy yn dod yn rhan o'r gymuned.

"Ma' pawb yn eu hadnabod nhw, ma' pawb yn gwerthfawrogi eu bod nhw yma yng nghanol y gymuned leol," dywedodd.

"Ma' un o'r myfyrwyr yn gweithio mewn siop yn lleol. Ma'r ddwy wedi derbyn interniaethau gan y brifysgol, felly maen nhw wedi ymgysylltu'n llwyr ar draws y campws ac ar draws cymuned Llanbed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ystod o wasanaethau ar y cwmpas i gefnogi'r myfyrwyr o Wcráin, medd y Profost Gwilym Dyfri Jones

Wrth i'r brwydro barhau yn Wcráin a theuluoedd Anastasiia a Valeriia dal mewn peryg, mae'r brifysgol yn cynnig cymorth i'r myfyrwyr, meddai Gwilym Dyfri Jones.

"Mae'n amlwg 'dan ni'n sensitif i'r sefyllfa gan gofio'r erchylltra yn Wcráin ar hyn o bryd.

"'Dan ni'n cynnig gwasanaeth cwnsela a phob math o gyfleon iddyn nhw ddatblygu yn unigolion cytbwys ac yn unigolion aeddfed yma yn Llanbed."

Mae tua 6,400 o Wcrainiaid wedi cael lloches yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru - hynny o'r wyth miliwn sydd, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, wedi ffoi o Wcráin ers dechrau'r rhyfel.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru "bod nodi blwyddyn o ryfel yn Wcráin yn garreg filltir drasig".

"Rydym yn gefnogol o bawb rydym wedi croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, pobl o Wcráin sydd wedi galw Cymru yn adref, a rheini sydd yn brwydro yn Wcráin.

"Mae pobl Cymru wedi dangos eu bod yn bobl groesawgar, ac yn darparu cefnogaeth i bobl er gwaetha'r argyfwng costau byw."