Cwest Aberhosan: Ffermwr wedi marw o anafiadau difrifol

  • Cyhoeddwyd
Aberhosan

Clywodd cwest bod ffermwr o Aberhosan ym Mhowys wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol wedi i gyflenwad o fwyd anifeiliaid ddisgyn arno gyda grym.

Bu farw Iwan Llwyd Wynne Evans, 78, ar 17 Chwefror ar fferm Cleiriau Isaf yn Nyffryn Dulas.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd ddydd Mercher bod lori wedi cludo bwyd anifeilaid i "storiwr bwyd anifeiliad a oedd yn sefyll ar ei draed ei hun" ar y fferm am 16:45, ond yn fuan wedi i'r lori ollwng y storiwr fe wnaeth y cynnwys arllwys.

Dywedodd Catherine Burnell o swyddfa'r crwner bod Iwan Evans yn sefyll o dan y seilo ar y pryd a'i bod hi'n ymddangos fel bod y cynnwys wedi'i daro gyda grym.

Cwest llawn i ddilyn

Clywodd y cwest bod gyrrwr y lori a mab Mr Evans wedi ceisio symud y storiwr bwyd drwy ddefnyddio "cerbydau fferm a chadwyni", a bod gyrrwr y lori "wedi rhedeg y pellter byr i'r ffermdy i ddweud wrth wraig Mr Evans a'i bod hi wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys".

Wedi triniaeth CPR cafwyd cadarnhad bod Mr Evans wedi marw am 18:24.

Fe ddangosodd archwiliad post mortem yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ar 24 Chwefror bod Mr Evans wedi marw o "anafiadau difrifol".

Wrth agor a gohirio'r cwest "er mwyn caniatáu ymchwiliad llawn" fe wnaeth y crwner Patricia Morgan gydymdeimlo â theulu Mr Evans.

Bydd adolygiad o'r dystiolaeth a fydd wedi dod i law yn cael ei gynnal ymhen chwe mis.

Mae mab Mr Evans, Dafydd, yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Stoke wedi iddo gael anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig