Côr i ganu emyn coll mewn dathliad Dydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddwyd
Bydd emyn coll sy'n gysylltiedig â llofruddiaethau tri Chymro wrth gloddio am aur yn Y Wladfa yn y 1800au yn cael ei berfformio mewn dathliad Dydd Gŵyl Dewi.
Roedd yr emyn Pasg, Bydd Myrdd o Ryfeddodau, yn cael ei ganu'n aml mewn angladdau ar draws Cymru am gyfnod ond mae prin wedi ei glywed mewn canrif.
Mae'r cerddor Robat Arwyn wedi creu trefniant newydd o'r hen 'Emyn Angladd Genedlaethol' ar gyfer cyngerdd nos Iau gan Gôr Meibion Cymry Llundain yn Eglwys St Paul's, Knightsbridge.
Mae'r emyn, meddai, yn un "hen ffasiwn", ond mae'n gobeithio bod y trefniant cyfoes yn "cadw'n driw" i ysbryd y gân wreiddiol.
Cafodd yr emyn ei ganu yn y Wladfa wedi i Americaniaid brodorol ladd Richard Davies, o Llanelli, John Parry, o Ddinbych, a John Hughes, o Gaernarfon, Gwynedd ar 4 Mawrth 1884.
Fe gafodd ei ganu hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn dilyn y cyhoeddiad bod bardd buddugol y Gadair, Hedd Wyn wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Doeddwn i ddim wedi clywed amdani tan es i i Batagonia yn 2018 i feirniadu a chadw ambell i gyngerdd ac arwain cymanfa ac ati," dywedodd mewn sgwrs ar raglen Bore Cothi BBC Radio Cymru.
"Tra o'n i yna nes i gyfarfod â gŵr o'r enw Jeremy Wood, a 'naeth o fynd â ni ar daith o Esquel trwy Gwm Hyfryd i Trevelin, a fo 'naeth gyflwyno'r hanes i ni am yr emyn coll tra roedden ni'n cael paned yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin."
Claddu ddwywaith
Dyna pryd y clywodd Robat Arwyn am farwolaethau'r Cymry hefyd, a oedd wedi treulio pum mis yn teithio yn Y Wladfa ar drywydd aur.
Pan gododd amheuaeth bod rhywrai yn eu dilyn fe wnaethon nhw benderfynu dychwelyd i brifddinas Chubut, Rawson, oedd dros 400 o filltiroedd i ffwrdd.
Dywedodd Jeremy Wood: "Yn ystod y ddau ddydd a nos cyntaf fe aethon nhw ar ei ceffylau ar hyd canol afon fel bod dim traciau ar eu holau, a bu'n rhaid eu clymu i'w ceffylau mewn cyfnodau o flinder llethol.
"Unwaith roedden nhw'n meddwl eu bod yn saff, wnaethon nhw ymlacio, pacio'u harfau a marchogaeth ar hyd Afon Chubut."
Ond yn ôl Mr Wood doedd y dynion ddim yn ddiogel ac fe roedd yna ymosodiad arnyn nhw.
Llwyddodd pedwerydd dyn - John Evans, o Aberpennar - i ddianc wedi i'w geffyl neidio i lawr ceunant serth.
Wedi iddo gyrraedd Rawson, fe deithiodd criw o 43 i ardal yr ymosodiad a darganfod y cyrff, oedd wedi eu torri'n ddarnau.
Cafodd y gweddillion eu casglu a'u claddu gyda'i gilydd, ac fe ganodd y criw'r emyn Bydd Myrdd o Ryfeddodau.
Yn dilyn methiant i ddarganfod y llofruddion, fe wnaethon nhw ddychwelyd i'r man claddu a gweld bod y gweddillion wedi eu codi a'u gwasgaru.
Wrth eu claddu am yr eildro fe ganwyd yr emyn unwaith yn rhagor.
Mae'n "andros o stori", medd Robat Arwyn.
"Mae 'na sôn ei bod hi wedi cael ei defnyddio llawer yng Nghymru mewn cynebryngau, ond dwi'n meddwl bod hyn yn mynd yn ôl ganrif a mwy.
"Mae hi'n emyn drom - mae hi'n hen ffasiwn, yn amlwg o'r cyfnod.
"Felly roedd hi'n her i mi fel cyfansoddwr sydd ddim fel arfer yn 'neud trefniannau - mae'n well gen i greu o'r newydd.
"Roedd hi'n anodd defnyddio alaw a chordiau sy'n bodoli yn barod, ac felly be 'nes i benderfynu yn y diwedd oedd ail-ddehongli - dwi wedi dod ag elfennau hollol newydd i mewn iddi.
"Dwi wedi cymryd yr alaw wreiddiol ond wedi ei symud hi yn ei blaen ac wedi rhoi cordiau newydd hefyd.
"Ond dwi'n gobeithio bo' fi'n dal wedi cadw'n driw i'r ysbryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2023