Llygod mawr enfawr yn 'erydu clogwyni' Dinbych-y-pysgod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae llygod mawr "maint cathod" i'w gweld ar rai o'r clogwyni gerllaw

Mae pryder fod llygod mawr "maint cathod" yn erydu clogwyni yn ardal Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Mae fideo o'r llygod mawr yn eu dangos yn rhedeg o amgylch y creigiau o dwll i dwll wrth i'r tonnau daro'r creigiau islaw.

Dywed trigolion fod problem llygod mawr y dref wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf, gyda rhai yn galw am wneud mwy i'w hatal.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r broblem, a bod timau arbenigol yn gweithio i gael mynediad at ochr y clogwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn dweud fod y broblem ar ei gwaethaf yn ardal Castle Hill

Dywedodd Michael Lindsay, perchennog Dennis Cafe gerllaw, fod llygod mawr wastad wedi bod yn broblem yn yr ardal.

"Rydw i wedi rhedeg y caffi 'ma ers dros 30 mlynedd, ac mae wastad wedi bod yn broblem," meddai.

"Roedd 'na arfer bod rhywun gyda rôl benodol i ddelio gyda'r llygod mawr.

"Ry'n ni fwy na thebyg yn gweld llygoden fawr o leiaf unwaith yr wythnos yn rhedeg o amgylch y strydoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michael Lindsay ei fod yn gweld llygoden fawr yn yr ardal o leiaf unwaith yr wythnos

Dywedodd Roger Miles, capten cwch yn Ninbych-y-pysgod, ei fod yn pryderu fod y broblem wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf.

"'Dych chi'n gweld rhannau o'r clogwyn sydd wedi erydu, ac mae'r llygod mawr maint cathod weithiau," meddai.

"Mae angen i'r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â'r peth.

"Mae wedi bod yn mynd ymlaen ers amser heb unrhyw beth yn digwydd, ac mae angen gwneud rhywbeth."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen i'r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â'r peth," meddai Roger Miles

Dywedodd Clive Dobbins, sy'n byw yn y dref, y cafodd lygoden fawr yn ei fflat ychydig fisoedd yn ôl.

"Ro'n i yn y lolfa, ac yn sydyn dyma'r peth 'ma'n rhedeg a tharo fi ar fy nghoes," meddai.

"Mae nifer o bobl wedi dweud wrtha i eu bod wedi gweld clystyrau ohonyn nhw.

"Ond mewn 10 mlynedd dim ond un rydw i wedi'i weld, oni bai am yr un yn fy fflat."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Clive Dobbins fod llygoden fawr wedi llwyddo i fynd i mewn i'w fflat yn ddiweddar

Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn ymwybodol o'r problemau a'r angen i osod mwy o drapiau, a'u bod yn gweithio i fynd i'r afael â phryderon pobl.

"Ry'n ni'n defnyddio staff arbenigol i gael mynediad at ochr y clogwyn, ac fe allai hyn ein galluogi i ni gael mynediad cyson yn y dyfodol hefyd," meddai llefarydd.

"Yn y cyfamser ry'n ni'n annog pobl yn erbyn bwydo'r adar a gollwng bwyd. Fel man dechrau ry'n ni'n ystyried rhagor o arwyddion er mwyn pwysleisio'r neges yma."