Siopau stryd fawr yn 'brysurach nag oedden nhw llynedd'

  • Cyhoeddwyd
Canol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwil ar fusnesau'r stryd fawr yng Nghaerdydd yn awgrymu eu bod yn brysurach y gaeaf yma na'r un adeg y llynedd.

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, roedd nifer y bobl ar brif strydoedd siopa'r ddinas 12.2% yn uwch fis Chwefror 2023 o'i gymharu â Chwefror 2022.

Er hynny, roedd y prysurdeb yn y brifddinas dal dros 13% yn is na chyn y pandemig yn 2019.

Doedd y data ddim yn medru rhoi darlun manwl mewn rhannau eraill o Gymru.

Ond mae dau fusnes yn y gogledd wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw hefyd yn teimlo ei bod hi'n brysur eleni.

'Pethau wedi ailgychwyn'

Mae Tudor Jones yn rhedeg siopau dillad yn Rhuthun a Chaernarfon ac yn dweud bod pethau'n "cadw fyny'n iawn".

"'Di hi ddim yr adeg gorau o'r flwyddyn, diwedd y gaeaf, dim cweit i mewn i'r gwanwyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n dechrau edrych yn fwy addawol, medd Tudor Jones o siop ddillad Trefor Jones

"Mae'n neis bod pethau wedi ailgychwyn. 'Den ni'n gwneud lot o briodasau a'r math yna o beth.

"Ac ar ôl y flwyddyn neu ddau ddiwethaf mae'n dda bod pethau fel 'na wedi ailgychwyn.

"Ar y cyfan, roedd Dolig yn dda ac mae'n neis bod pobl yn cael mynd ar eu gwyliau, rasys Caer, mae popeth yn cael ailgychwyn.

"Den ni'n cael pobl o bell iawn i'r ddwy siop am bod y dewis ar y stryd fawr ddim mewn lot o lefydd.

"Mae lot o drefi wedi cael eu chwalu yn y ddwy flynedd diwethaf, a 'den ni'n cael lot o gwsmeriaid oherwydd hynny."

'Cwsmeriaid cefnogol'

Draw yn Ninbych, mae Gethin Ceidiog yn gweithio yng nghaffi a siop Te yn y Grug.

"Mae wedi bod yn brysur yn fan hyn," meddai. "'Den ni'n lwcus o gael cwsmeriaid cefnogol a selog.

Disgrifiad o’r llun,

Maeth Gethin Ceidiog yn "ddigon prysur" yn siop a chaffi Te yn y Grug

"Yn draddodiadol mae Ionawr a Chwefor yn dawelach. Ond 'den ni'n gobeithio bydd pethau yn prysuro wrth i'r diwrnod fynd yn hirach.

"'Den ni'n gwerthu nwyddau o Gymru, cynnyrch lleol. Mae pobl yn gefnogol, mae nhw'n hoffi prynu pethau neis, neu dod i fewn am baned neu ginio.

"Mae'n anodd dweud ai'r caffi neu'r siop sydd brysuraf, ond dwi'n cadw'n brysur!"

Pynciau cysylltiedig