Beth ddigwyddodd i Stryd Fawr Bangor?
- Cyhoeddwyd
"Da ni wedi cyrraedd sefyllfa rŵan lle mae pobl yn dweud 'now or never'. Tydi hi ddim yn opsiwn gwneud dim byd."
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i'r Stryd Fawr mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad, ond mae geiriau plaen un o drigolion Bangor yn dangos y pryder yno ar hyn o bryd.
Flynyddoedd yn ôl roedd Bangor yn ffynnu, ond o gerdded i lawr y Stryd Fawr y dyddiau yma mae'n fyd gwahanol iawn gyda nifer o siopau wedi cau lawr ac adeiladau yn dadfeilio.
Mae cwmnïau adnabyddus oedd efo siopau mawr yng nghanol y dref hefyd wedi mynd i'r wal neu wedi gadael a'r adeiladau rŵan yn wag.
Un caffi adnabyddus ar y Stryd Fawr sydd wedi gweld cryn dipyn o newid ers agor yn 1934 ydi Antoniazzi Penguin Cafe.
Nick Antoniazzi ydi'r perchennog erbyn heddiw, ac mae ei deulu yn rhedeg busnesau yng Nghymru ers i'w hen daid gerdded yno yr holl ffordd o'r Eidal i geisio bywyd gwell yn 1898.
"Os yda chi'n cofio nôl i'r 1990au a'r 80au, roedd pethau yn booming yma," meddai Nick.
"Dwi'n cofio'r Wellfield yn llawn o siopau - roedd tua 50 uned busnes i gyd yn llawn, a Woolworths yn tynnu pobl i mewn, a Debenhams ar dop y Stryd Fawr."
Mae'r rheiny i gyd wedi mynd erbyn hyn.
Dechreuodd y Stryd Fawr ddiodde', meddai, yn sgil dau benderfyniad bron i 20 mlynedd yn ôl: rhoi caniatâd i Tesco godi siop enfawr ar gyrion y ddinas, gyda chwmnïau fel Next a Currys yn eu dilyn; a dymchwel Canolfan Siopau Cae Ffynon - neu'r Wellfield - yng nghanol Bangor.
Adeiladwyd Canolfan Menai yn eu lle, ac yn hytrach na chael unedau bychain i fusnesau llai fel yn y Wellfield roedd y pwyslais ar gael unedau mwy ar gyfer cwmnïau adnabyddus.
Un o'r rheiny oedd Debenhams, wnaeth gau ei drysau y llynedd wedi i'r cwmni fynd i drafferth ariannol. Mae'r adeilad dal yn wag ac yn rhy fawr i gwmni lleol agor siop yno.
"Dwi'n siŵr bod tua 100 o staff yn gweithio yno i gyd," meddai Nick. "Roeddan ni'n gwneud buffet i Debenhams, roedd y staff yn cefnogi busnesau lleol amser cinio neu cyn mynd i'r gwaith. Mae'n wag rŵan."
Mae'n gylch ddieflig. Gyda llai o reswm dros ddod i ganol y dref, mae llai yn cael ei wario yn y siopau sy'n weddill, sy'n arwain at fwy o fusnesau yn cau - sy'n rhoi llai o reswm dros ddod i'r dref. Dywed Nick fod yn rhaid i'r awdurdodau wneud rhywbeth - fel gwneud hi'n rhatach i barcio a chreu digwyddiadau i dynnu pobl nôl i'r dref.
"Mae pobl Bangor yn brilliant, ac mae'r gefnogaeth 'da ni'n cael ganddyn nhw yn brilliant ond dwi yn teimlo dros y bobl leol, lot sydd wedi byw yma ar hyd eu bywyd ac yn gweld be' sy' 'di digwydd i'w dinas nhw.
"Mae'r lle yma angen lot o help. Dwi'n teimlo'n bod ni ar ben ein hunain ac yn gorfod cwffio dros y lle a sna'm byd yn mynd ymlaen."
Mae'r gŵr busnes yn cydnabod bod y pandemig a'r we wedi cael effaith fawr ar Fangor fel pobman arall, ond mae'n dweud bod trefi cyfagos, fel Llandudno, Caernarfon a Phorthaethwy, yn gwneud yn llawer gwell.
Un siop sy'n adlewyrchu tranc Bangor ydi siop ddillad Morgan. Agorodd yn 1992 yn y Wellfield, cyn symud i'r Stryd Fawr pan gaewyd y ganolfan yn 2004.
Ar ôl ffynnu yn eu lleoliad newydd roedd y perchnogion Helga Morgan ac Edward Allbutt yn gweld llai o bobl yn ymweld â chanol y ddinas wrth i'r ardal ddirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Dros yr haf fe symudon nhw i leoliad ar ochr arall Afon Menai ym Mhorthaethwy, pentref gyda nifer o siopau a chaffis annibynnol.
Meddai Helga Morgan: "Da i wedi bod yn brysur yma ers agor. 'Da ni'n gweld pobl yma. Mae Borth yn le braf, felly mae pobl yn hoffi dod yma pan doeddan nhw'n ella ddim mor hoff o fynd i Fangor erbyn hyn."
Mantais arall i'r busnes ydi bod trethi yn llai yno. Beth sy'n eu synnu ydi bod eu trethi busnes ym Mangor yn uwch na'r siopau eraill sydd ganddyn nhw yng nghanol Caer ac yn ardal Pontcanna, Caerdydd.
Mae trethi busnes yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol, ond maen nhw wedi eu selio ar werth trethiannol yr adeilad sy'n cael ei benderfynu gan y Swyddfa Prisiant. Fe ddigwyddodd yr asesiad diwethaf nol yn 2015, ac yn ôl y gyfraith fydd dim newid tan 2023.
Yn ôl Edward Allbutt tydi hyn ddim yn adlewyrchu'r realiti i fusnesau heddiw ym Mangor.
Meddai: "Mae 'na lag, ac mae'r rates fel hangover o gyfnod sydd wedi bod. Mae'r system wedi torri.
"I unrhywun efo busnes newydd, mae'r costau yn rhy uchel."
Ac mae'n dweud bod y sefyllfa'n waeth ym Mangor gan mai cwmnïau o'r tu allan i'r ardal sy'n berchen ar rhai siopau fel rhan o'u portffolio eiddo, a'u bod yn dadfeilio. Nid siopau gwag ydi y rhain erbyn hyn meddai, ond prosiectau atgyweirio.
"Yn y cyfnodau da tydi nhw heb wario ar wella'r adeiladau, dim ond ffordd o wneud arian i'r perchnogion ydi nhw," meddai. "Fydd o'n costio ffortiwn i'w gwella nhw, ond tydi nhw methu cael tenant heb hynny gan fod y llefydd mor wael."
Un ateb, yn ôl y cynghorydd sir sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o'r Stryd Fawr, ydi eu prynu nhw. Dywed Nigel Pickavance bod gan gyngor Gwynedd y grym cyfreithiol i wneud hynny gan fod yr adeiladau mewn cyflwr gwael, yn wag ers sbel ac yn amharu ar fusnesau'r Stryd Fawr.
Mae o'n cydnabod bod cael Bangor yn ôl ar ei thraed yn sialens fawr, ond mae'n dawel hyderus gan fod grŵp newydd o gynghorwyr a staff cyngor sir Gwynedd, Cyngor Dinas Bangor a gwirfoddolwyr yn benderfynol o wella'r ddinas a'r cynlluniau yn uchelgeisiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod Partneriaeth Strategol Bangor yn gobeithio cael grantiau i adfywio'r ddinas gan nifer o ffynonellau, yn cynnwys llywodraethau Cymru a'r DU, y Loteri Genedlaethol a'r Cyngor Celfyddydau.
Un peth sy'n rhoi hyder ydi'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig o hyd: dyma'r unig ddinas yng ngogledd orllewin Cymru, mae ganddi brifysgol, ysbyty mawr a Chastell Penrhyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi ei lleoli rhwng Eryri a'r arfordir a chanddi gysylltiadau da gyda'r A55, pont Britannia a'r system drenau.
Dylid marchnata'r ddinas fel canolfan i ymwelwyr sy'n dod i ogledd Cymru, meddai Nigel Pickavance, a denu mwy o ddigwyddiadau - fel y farchnad sy'n digwydd bob dydd Gwener - yn hytrach na dibynnu ar gwmnïau mawr.
"Allwn ni ddim edrych ar Fangor fel lle dim ond i siopau - mae angen bod yn fwy na hynny," meddai.
"Sbïwch ar Menai Bridge - sydd wedi dod yn ei flaen lot. Mae o'n le i gymdeithasu, mae'n rywle lle mae pobl yn mynd i gael bwyd neu i wrando ar gerddoriaeth. Neu Caernarfon, maen nhw efo lot o siopau annibynnol sy'n cael eu rhedeg gan bobl o'r ardal, sy'n poeni am yr ardal.
"Mae angen lot fawr o waith ac mae angen pres, ond 'da ni wedi cyrraedd sefyllfa rŵan lle mae pobl yn deud 'now or never'.
"Neith o ddim digwydd dros nos ond rydan ni angen rhoi rhywle all y genhedlaeth nesa fod yn falch ohono."