Undebau llafur: Annog gweinidogion i helpu hybu aelodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu galwadau i annog mwy o bobol i ymuno ag undeb llafur.
Dywedodd y llywodraeth Lafur y byddai'n ystyried syniadau sydd wedi'u hanelu at hybu cyfraddau aelodaeth, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai hynny fod yn "flaenoriaeth".
Mae'r ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd fis Mai diwethaf, yn dangos bod 19.9% o weithwyr y sector preifat yng Nghymru yn rhan o undeb yn 2021, o gymharu â 62.4% o weithwyr y sector cyhoeddus.
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod gweithwyr iau yn llai tebygol o fod yn rhan o undeb na'u cydweithwyr hŷn, gyda 32.7% o bobl 25-34 oed ar draws holl sectorau Cymru yn aelod undeb, o gymharu â 45.5% o weithwyr hanner cant oed neu hŷn.
'Meddylfryd undebol'
Ymunodd gweithiwr manwerthu yn ne Cymru, sydd wedi gofyn i'r BBC gyfeirio ati fel "Bethany" er mwyn iddi fod yn anhysbys, ag undeb llafur ar ôl gweld sut y bu i gynrychiolydd undeb a ymwelodd â'r siop lle mae'n gweithio ddiogelu safonau citiau cymorth cyntaf.
Fel gweithiwr ifanc undebol yn y sector preifat, mae Bethany yn y lleiafrif, gyda streiciau'r sector cyhoeddus yn parhau i ddominyddu'r agenda newyddion.
"Rwy'n ei weld yn fawr iawn ymhlith pobl hŷn a godwyd gyda'r meddylfryd undebol hwnnw, a welodd y gwahaniaeth a wnaeth yn y 70au a'r 90au cynnar, a welodd yr hyn y gallent ei wneud," meddai Bethany wrth raglen Politics Wales y BBC.
Ond mae'n wahanol yn ei grŵp oedran hi, meddai.
"Mae'n ymddangos bod llawer o bobl o'r farn ei fod yn £10 [neu] £15 nad ydyn nhw eisiau colli o'u cyflog, oherwydd pan rydych chi ar gontract dim oriau mae'n adio'n gyflym."
Yn ôl adroddiad newydd gan felin drafod y Sefydliad Materion Cymreig, "does dim undebau llafur yn bodoli mewn sawl rhan o'r sector preifat yng Nghymru".
"Yn aml, y rhai sydd â'r angen mwyaf am gynrychiolaeth undeb - fel gweithwyr ifanc a'r rhai mewn cyflogaeth ansicr - sydd leiaf tebygol o ddod yn aelodau," ychwanega'r adroddiad.
Mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa y gall undebau gyflwyno cynigion i'w defnyddio er mwyn ceisio rhoi hwb i nifer yr aelodaeth.
Mae hefyd yn galw ar weinidogion i osod "carreg filltir genedlaethol" ar gyfer aelodaeth undebau, ac i ystyried ceisio datganoli pwerau sy'n ymwneud â rheoleiddio undebau llafur.
'Grym er daioni'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ei bod yn "croesawu" yr adroddiad.
"Mae'r argymhellion yn sicr yn ceisio adeiladu ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud eisoes fel llywodraeth i hyrwyddo aelodaeth undebau llafur ac i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno undebau llafur fel grym er daioni."
Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar bartneriaeth gymdeithasol, Joel James, y dylai fod "blaenoriaethau uwch i Lywodraeth Cymru" na hybu niferoedd aelodaeth undebau, gan gynnwys addysg, symudedd cymdeithasol ac iechyd.
Dywedodd yr Athro Alex Bryson, o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, fod "ystod o resymau" bod cyfraddau aelodaeth undebau yn uwch yn y sector cyhoeddus na'r sector preifat, gan gynnwys maint gweithleoedd y sector cyhoeddus.
Mewn cyferbyniad, mae'n "anodd iawn" ac yn "gostus" trefnu gweithwyr iau yn y diwydiant bwyd cyflym a'r economi gig, ychwanegodd.
Dywedodd TUC Cymru, y sefydliad ymbarél ar gyfer y rhan fwyaf o undebau llafur yng Nghymru, fod undebau "yn buddsoddi mewn ceisio recriwtio gweithwyr iau ar draws y farchnad lafur, ond yn amlwg mae angen gwneud mwy fel bod llawer mwy o bobl yn gwireddu eu hawl i lais torfol yn gwaith".
"Mae'n hanfodol bod gennym ni fwy o undebwyr llafur ifanc gweithgar a mwy o sylw i fargeinio ar y cyd," ychwanegodd llefarydd.
Darlledir Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 GMT ddydd Sul 5 Mawrth ac ar BBC iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2023