Nyrsys yn gwrthod cynnig tâl diweddaraf y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Nyrs mewn llinell biced yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ambell streic ddechrau Chwefror eu gohirio wrth i undebau ymgynghori gyda gweithwyr iechyd am gynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru

Mae nyrsys yng Nghymru wedi gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru - ond mae marc cwestiwn dros unrhyw weithredu diwydiannol pellach gan fod "mwyafrif" yr undebau iechyd wedi ei dderbyn o drwch blewyn.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod, o'r 15 undeb oedd yn rhan o'r trafodaethau, bod y cynnig newydd ei dderbyn o un pleidlais.

Ond gan fod mwyafrif yr undebau sy'n cynnal streiciau wedi gwrthod y cynnig ac yn debygol o barhau i weithredu'n ddiwydiannol, mae'n aneglur a fydd Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen gyda'r cynnig neu'n ei dynnu'r oddi ar y bwrdd.

Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod y llywodraeth "yn falch bod y cynnig wedi cael ei dderbyn".

Mae'r cynnig uwch ar gyfer 2022/23 "yn cynnwys 3% yn ychwanegol - 1.5% yn gyfunedig ac 1.5% yn anghyfunedig - ar ben y cynnydd a dalwyd yn gynharach eleni", yn ôl Ms Morgan.

"Gyda'i gilydd mae hyn yn cyfateb i 7.6% yn ychwanegol ym mil cyflog y GIG ar gyfer 22/23."

'Dim dewis'

Dywedodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru, Helen Whyley bod yr "anghydfod yn parhau" gan fod eu haelodau "wedi datgan yn gryf eu bod yn gwrthod y cynnig yma gyda mwyafrif llethol".

Fe wnaethon nhw alw ar Ms Morgan i ailddechrau trafodaethau, gan ddweud y byddan nhw'n dechrau trefnu mwy o streiciau oni bai bod hynny'n digwydd o fewn pum niwrnod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r RCN nawr yn galw am ailddechrau trafodaethau ar frys os am osgoi rhagor o streiciau

Pwysleisiodd Ms Whyley fod aelodau "ddim eisiau streicio ond dyw'r cynnig ychwanegol yma ddim yn adfer blynyddoedd o danbrisio a dim digon o staff".

"Mae staff nyrsio, unwaith yn rhagor, yn teimlo eu bod wedi eu gadael gyda dim dewis," meddai.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i ddod â'r anghydfod hir yma i ben."

Eisoes mae undebau'r GMB ac Unite, sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans, wedi gwrthod y cynnig diweddaraf ac maen nhw'n bwriadu mynd ar streic ddydd Llun nesaf.

Mae Unite hefyd wedi cadarnhau y bydd aelodau ar streic ar 10 Mawrth, ond bydd aelodau'n parhau i ymateb i'r galwadau mwyaf brys ble mae bywyd yn y fantol.

Camau 'aneglur' o ran gwella amodau

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite yng Nghymru, Richard Munn: "Rydym yn cymryd ein mandad gan ein haelodau, nid aelodau undebau llafur eraill.

"Cawsom bleidlais gyda 70% yn pleidleisio, a 92% yn gwrthod y cynnig. Does dim wedi newid ers hynny ond mae'r [undebau sy'n rhan o Fforwm Partneriaeth Cymru] wedi pleidleisio i dderbyn. Mae bargeinio ar y cyd yn golygu bod ni ac unrhyw un sy'n ymuno â'r GIG yn cael hwnnw."

Ychwanegodd bod yna awydd i drafod ymhellach, a bod modd "gwneud pethau bach o ran ein termau ac amodau".

Roedd mesurau Llywodraeth Cymru o ran gwella amodau a lles staff, meddai, yn "aneglur" ond pe bai camau "mwy sylweddol yn hynny o beth... byddai yn rhywbeth y byddwn ni'n eu cymryd o ddifrif".

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr ambiwlans yn bwriadu streicio eto wythnos nesaf

'Cynnig rhesymol'

Mewn datganiad brynhawn Mawrth, dywedodd Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP) bod aelodau wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig newydd.

Roedd y pecyn ar gynnig hefyd yn cynnwys addewidion i wella lles staff.

Dywedodd Jim Fahie o'r CSP bod "aelodau'n derbyn bod hwn yn gynnig rhesymol" a bod agwedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn "adeiladol".

Roedd y cynnig gwreiddiol, meddai, yn "gwneud dim i helpu [aelodau] reoli'r arfygwng costau byw na datrys y prinder staff difrifol ar hyn o bryd yn y GIG".

"Roedd y cynnig gwell ond yn bosib trwy benderfyniad dewr ein haelodau ac aelodau undebau eraill i bleidleisio o blaid streicio ac mae'n dangos cryfder undebau iechyd."

Rhwystredigaeth yn parhau

Dywed Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) bod aelodau wedi gwrthod y cynnig, ond mai "ateb mwyafrif yr undebau llafur sy'n rhan o Fforwm Partneriaeth Cymru ar y cyd... yw i dderbyn y cynnig".

Bydd yr RCM hefyd, felly, yn trafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru o ran gweithredu'r cynnig "a phwyso i ddechrau trafodaethau cyflog 2023/24".

Ond maen nhw hefyd yn bwriadu trafod canlyniad y bleidlais gyda'u bwrdd llywodraethol i "benderfynu ar y camau nesaf".

Dywedodd eu cyfarwyddwr yng Nghymru, Julie Richards, bod hi'n "glir bod ein haelodau'n dal yn rhwystredig gyda lefel eu tâl, eu hamodau gwaith, a'r diffyg adnoddau i ddarparu'r gofal gorau posib".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan bod y llywodraeth yn derbyn "cryfder y teimladau" ymhlith gweithwyr y GIG

Dywedodd Eluned Morgan: "Er ein bod yn falch bod y cynnig wedi cael ei dderbyn, rydym yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr aelodau.

Mae'n fwriad, meddai, i barhau i weithio gyda'r undebau "drwy'r broses o weithredu'r cynnig hwn".

Byddan nhw hefyd yn dechrau trafodaethau "ar unwaith ar y camau nesaf gan gynnwys sgyrsiau ystyrlon parhaus ar natur y dyfarniad cyflog ar gyfer 23/24 a'r elfennau ychwanegol ar wahân i gyflog er mwyn gwella amodau a lles ein staff yn y GIG".

"Hoffem ategu hefyd, pe bai trafodaethau yn Lloegr yn esgor ar gynnig i staff y GIG yn Lloegr a fyddai'n golygu symiau canlyniadol i Gymru, y byddai'r rheiny wrth gwrs yn cael eu trosglwyddo ymlaen i staff y GIG yng Nghymru."