Sticeri ar badlfyrddau Tesco wedi marwolaeth Morfa Conwy

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bedwyr ap Gwyn: "Mae pobl yn gweld padlfyrddio mwy fel teganau na darn o kit"

Bydd cwmni Tesco yn arddangos cyngor diogelwch ar bob padlfwrdd y mae modd sefyll arnynt, wedi i ddynes o Landudno farw tra'n defnyddio bwrdd gafodd ei werthu gan yr archfarchnad.

Bu farw Emma Powell, 24, fis Gorffennaf diwethaf wedi iddi fynd i drafferthion ger Morfa Conwy wrth gael ei chaethiwo o dan y padlfwrdd.

Ar ddiwedd y cwest i'w marwolaeth fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth yr uwch grwner John Gittins ddweud y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac archfarchnad Tesco i godi pryderon am ddiogelwch padlfyrddau.

Dywedodd bod angen ystyried y defnydd o gortynnau ffêr, sy'n cysylltu'r defnyddiwr â'r bwrdd, ac a ddylai siopau roi cyngor diogelwch pellach.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emma Powell, 24, fis Gorffennaf diwethaf wedi iddi fynd i drafferthion ger Morfa Conwy

Mae cwmni archfarchnad Tesco wedi ymateb drwy ddweud y byddan nhwn'n rhoi sticeri diogelwch ar bobl padlfwrdd sefyll.

Bydd y sticeri yn dangos y ffordd gywir i ddefnyddio'r llinyn mewn amodau gwahanol.

Yn ogystal, bydd cod QR ar y sticer a fydd yn cysylltu i dudalen gwe lle bydd modd cael gwybodaeth bellach.

Bu farw Emma Powell wedi iddi hi a'i chyfnither, Amber Powell, brynu padlfwrdd yn archfarchnad Tesco ger Llandudno.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roed Emma Powell a'i chyfnither wedi prynu padlfyrddau o siop Tesco ger Llandudno

Clywodd y cwest nad oedd yr un ohonyn nhw'n gwisgo siaced achub, ac er bod y môr yn arw doedd y tywydd ddim yn ofnadwy.

Ond fe wnaeth padlfwrdd Emma Powell daro ochr glanfa ac fe aeth yn sownd.

'Byddai dal gyda ni'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd brawd yng nghyfraith Emma, Mike Tasker, fod ymateb cwmni Tesco yn "eitha' da" ond "fod angen gwneud mwy".

"Y cortyn ffêr a ddarparwyd gyda'r bwrdd ar y noson honno oedd achos marwolaeth ein hannwyl Emma," meddai.

Dywedodd y byddai'n parhau i ymgyrchu fel bod teclynnau o gwmpas y bol, allai ryddhau pobl yn gyflym, yn gallu cael eu darparu gyda'r holl frandiau o badlfyrddau.

"Mae llawer o'r brandiau bwrdd mwy cydnabyddedig eisoes yn eu cyflenwi yn y pecyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emma Louise Powell mewn damwain Padlfyrddio ym Morfa Conwy

"Pe bai gan Emma un o'r rhain ar y noson honno, byddai dal gyda ni i fod yn onest."

Ychwanegodd: "Ni fydd marwolaeth Emma byth yn ein gadael, ni ddylai neb orfod dioddef yn y ffordd y gwnaeth hi ynghyd â'i theulu a'i ffrindiau.

"Mae wedi effeithio arnom yn ddwfn a bydd yn parhau i wneud am byth. Rydyn ni'n ei cholli hi'n fawr.

"Os gallwn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal hyn."

'Nifer wedi marw yn ddiweddar'

Dywed British Canoeing, sydd wedi bod yn annog gwerthwyr i ddarparu cyngor diogelwch ers i badlfyrddio ddod yn fwy poblogaidd, bod penderfyniad Tesco yn "gam pwysig" a'u bod yn gobeithio y bydd archfarchnadoedd eraill yn gwneud yr un fath.

"Mae cael siopau, cynhyrchwyr a chyflenwyr yn darparu gwybodaeth am ddiogelwch wrth werthu padlfyrddau yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymhlith padlfyrddwyr newydd a llai profiadol," meddai Ashley Metcalfe, prif weithredwr British Canoeing.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley wrth badlfyrddio yn Hwlffordd ym mis Hydref 2021

"Yn anffodus, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer o badlfyrddwyr newydd a chymharol newydd wedi marw."

Mewn llythyr at y crwner dywedodd archfarchnad Tesco eu bod wedi "gweithio'n galed" i sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei werthu yn ddiogel, a bod y newyddion bod un o'u cwsmeriaid wedi marw tra'n defnyddio un o'u padlfyrddau yn hynod o drist.

Fe ddywedon nhw hefyd y byddan nhw yn rhannu gwybodaeth gyda siopau eraill.

Mewn digwyddiad arall bu farw pedwar o badlfyrddwyr, Nicola Wheatley, Paul O'Dwyer, Morgan Rogers ac Andrea Powell, wedi iddyn nhw fynd i drafferthion yn Hwlffordd ym mis Hydref 2021.

Pynciau cysylltiedig