Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Munster 49-42 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Patrick Campbell yn cael ei daclo gan Dane Blacker o'r ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Patrick Campbell yn cael ei daclo gan Dane Blacker o'r Scarlets

Fe gafodd y Scarlets hanner cyntaf hunllefus yng Nghorc yn erbyn Munster.

Roedd y Gwyddelod yn gyflym ac yn rymus ac fe ddaeth y ceisiau yn rhwydd. Daeth y cyntaf o fewn dwy funud yn unig gyda Patrick Campbell yn sgorio.

Mewn deg munud yr oedd yna ail gais - y tro hwn drwy Calvin Nash. Fe wnaeth Joey Carbery drosi'r ddau gais ac roedd Munster 14 pwynt ar y blaen.

Doedd y Scarlets ddim yn gweld y bêl yn aml, a hyd yn oed pan oedd y meddiant ganddynt roedd camgymeriadau yn ildio'r bêl i Munster.

Ar ôl 27 munud roedd gan y Gwyddelod 28 pwynt - Shane Daly a Paddy Patterson yn croesi'r gwyngalch a chicio Carbery yn gywir.

Ond cyn diwedd yr hanner cyntaf fe welwyd gallu'r Scarlets mewn ymweliad anarferol yn hanner Munster ac fe sgoriodd Joe Roberts yn y gornel gyda Sam Costelow yn ychwanegu dau bwynt.

Ond yna fe ymatebodd Munster gyda chais arall i Daly, ac ar hanner amser roedd hi'n 35 i 7.

Roedd y Scarlets yn wahanol dîm yn yr ail hanner, ac yn y pum munud cyntaf fe wnaeth Vaea Fifita sgorio ac fe drosodd Sam Costelow yn llwyddiannus. Ymatebodd Munster gyda throsgais i Gavin Coombes.

Roedd y sgorio yn parhau i Munster - wedi trosgais i Nash roedd hi'n 49 i 28.

Mewn gêm ryfedd iawn roedd y Scarlets yn dal i ymladd a daeth trosgais arall i Gareth Davies, ac yna un arall i Tom Rogers, ac wrth i'r Cymry frwydro yn ôl roedd y sgôr terfynol yn Munster 49 Scarlets 42.

Pynciau cysylltiedig