Gogledd Cymru i elwa o ymweliad Eurovision â Lerpwl?
- Cyhoeddwyd
Fe allai gogledd Cymru elwa'n economaidd o ymweliad Eurovision â Lerpwl, yn ôl busnesau a swyddogion.
Mae disgwyl i'r digwyddiad ddenu 100,000 o bobl i Lannau Mersi ac mae llawer o'r busnesau lletygarwch lleol un ai yn llawn neu wedi codi eu prisiau'n sylweddol.
Dywedodd rheolwr un gwesty yn Sir Ddinbych eu bod nhw wedi gweld cynnydd mewn archebion ar ôl hyrwyddo'u hunain fel rhywle i gefnogwyr Eurovision aros.
Yn ôl Elizabeth Mason o Westy'r Traethau ym Mhrestatyn, mae'n gobeithio bydd "pobl yn gallu fforddio aros ychydig yn hirach" drwy ddewis llety yng Nghymru.
Mae swyddogion Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn credu bydd cyfleon i'r Cymry sy'n byw yn agos i'r ffin gael gwaith ynghlwm â'r digwyddiad hefyd.
Ond "bach" fydd yr effaith tymor byr, yn ôl academydd o Brifysgol Bangor, sy'n meddwl er hynny bod modd manteisio yn y tymor hir.
Ms Mason ydy rheolwr digwyddiadau Gwesty'r Traethau, sydd ychydig dros awr o gyrion Lerpwl.
"Dwi'n gwybod mai Lerpwl ydy'r lle i fod ar gyfer Eurovision ond yn amlwg fydd pobl ddim o angenrheidrwydd eisiau aros yn Lerpwl yn unig," meddai.
"Mae ganddyn nhw fonopoli, mewn ffordd, am eu bod nhw'n nes at bopeth, os ydy pobl eisiau bod wrth galon popeth.
"Ond gyda ni ond rhyw fymryn i ffwrdd, does dim angen mynd yn wallgo' a chodi prisiau ac ati, felly bydd pobl yn gallu fforddio i aros ychydig yn hirach, yn lle dim ond aros am y noson."
Mae'n teimlo bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i ogledd Cymru ddenu ymwelwyr o dramor.
"Dwi'n credu ei fod o'n gyfle eithaf mawr achos pan 'dach chi'n edrych ar letygarwch, gyda phobl yn dod o wledydd gwahanol, dydy gogledd Cymru ddim yn atynnu llawer.
"Mae pawb eisiau mynd i Gaerdydd a does neb yn gwybod am fodolaeth y gogledd. Cymru ydy Caerdydd.
"Mae'n wych cael rhywbeth mor bwysig â hyn yn agos at ffin Cymru."
'Mae hwn yn anferth'
Cynnal Eurovision ar ran Wcráin mae'r Deyrnas Unedig. Penderfynodd Caerdydd beidio â gwneud cais i gynnal y gystadleuaeth - roedd hi rhwng Lerpwl a Glasgow yn y diwedd.
Ddydd Mercher daeth 1,500 o bobl i ffair swyddi yn y ganolfan gynadledda drws nesaf i'r M&S Bank Arena ble bydd rowndiau terfynol Eurovision.
Dywedodd Linda Usher o'r Adran Gwaith a Phensiynau y byddai Cymru'n teimlo "effaith ddwbl" - cyfleon am swyddi a hwb i fusnesau lletygarwch.
"Bydd gennym ni gwsmeriaid yn dod o Gymru i weithio yn nigwyddiadau Eurovision ond mae 'na effaith hefyd ar y gwestai, y sector lletygarwch, yng ngogledd Cymru ei hun," meddai.
"Mae hwn yn anferth. Mae disgwyl bydd 100,000 o bobl yn dod i Lannau Mersi a bydd rhai o'r rheiny yn aros yng ngogledd Cymru.
"Felly yn economaidd bydd 'na [hwb] ar Lannau Mersi a Chymru, ac unwaith y byddan nhw'n mynd i Gymru, mae 'na obaith y byddan nhw'n dod yn ôl, felly mae hwn yn fwy na'r Eurovision ei hun."
Yn ôl y we, prin ydy'r stafelloedd mewn rhai gwestai yn y gogledd-ddwyrain o gwmpas penwythnos y gystadleuaeth, 13 Mai.
Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda VisitBritain a threfnwyr Eurovision i ddenu pobl i'r ardal yn ystod y digwyddiad.
Ychwanegodd y bydd Croeso Cymru "yn gwneud y gorau o'r cyfleon fydd yn codi yn y dyfodol oherwydd y cynnydd mewn ymwybyddiaeth o beth allai'r DU a Chymru, yn enwedig, ei gynnig i ymwelwyr".
Ac yn y tymor hir y gallai Cymru elwa mewn gwirionedd, yn ôl Dr Llyr Roberts o Ysgol Busnes Bangor.
"Fe fyddai rhywun yn disgwyl rhywfaint o gyfraniad economaidd, ond dwi ddim yn meddwl y bydd o'n gyfraniad anferthol yn y tymor byr," meddai.
"Dwi'n meddwl lle mae'r Eurovision yn gallu gwneud gwahaniaeth ydy yn y tymor hir, achos dwi'n meddwl be' sydd gynnoch chi yn fan'ma ydy captive audience - mae gynnoch chi 160 milwn o bobl yn eich gwylio chi."
Mae'n credu bod angen hyrwyddo gogledd Cymru fel cyrchfan i bobl sy'n bwriadu mynd i ogledd-orllewin Lloegr - yn ogystal â'i hyrwyddo fel rhan o'r cynnig twristaidd Cymreig.
"Be' 'dan ni angen trio gwneud yn y tymor hir a'r tymor byr ydy pan mae pobl yn ymweld â Lerpwl a Manceinion, ydy eu bod nhw hefyd yn dod a threulio rhyw hanner wythnos fach yng Nghymru hefyd," meddai.
'Nôl yn Lerpwl, mae rhai o drigolion y ddinas yn gobeithio bachu ar y cyfle i weithio yn Eurovision.
Gobaith y dylanwadwr Iwan Steffan, sy'n wreiddiol o Wynedd ac yn darlledu i 100,000 o ddilynwyr ar TikTok, ydy cael rhywfaint o waith drwy'r holl ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal.
"Nes i ddim rili sylwi pa mor fawr oedd o," meddai.
"Mae 'na'n mynd i fod gymaint o bethau gwahanol ac mae'n mynd i fod yn wych.
"Dwi'n mynd i drio fy ngorau i gael rhyw fath o waith tra mae'r sioeau ymlaen…
"Ond dwi'n meddwl, heblaw am hynna, fydda' i'n mynd i restaurants a bars a gwneud fideos efo nhw a dangos sut mae Eurovision yn Lerpwl."
'Cyfeillgarwch, nid cystadleuaeth'
I rai o drigolion mwy newydd yr ardal, bydd Eurovision eleni yn golygu cryn dipyn.
Fe wnaeth Yuliya Kyrinna, 38, ffoi o Wcráin i Gilgwri y llynedd, gan adael ei gŵr yn ei mamwlad mewn ardal sydd dan reolaeth Rwsia.
Mae'n dweud bod y gymuned o ffoaduriaid yn yr ardal yn awyddus iawn i gymryd rhan, rywsut neu'i gilydd.
"Fydd yr Eurovision yma ddim fel cystadleuaeth, mi fydd o am ddod â phobl ynghyd," meddai.
"Cyfeillgarwch, nid cystadleuaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018