Guto Harri: Dyddiau olaf Boris Johnson yn 'gyflafan lwyr'

  • Cyhoeddwyd
Guto HarriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe benodwyd Guto Harri fel cyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10 yn Chwefror 2022

"'Sa i'n credu bod dim byd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflafan lwyr, lle mae'r hwch yn mynd drwy'r siop."

Dyna oedd argraffiadau Guto Harri wrth yn edrych yn ôl ar ddyddiau olaf Boris Johnson fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru, dywedodd cyn-bennaeth cyfathrebu Downing Street bod ei gyfnod yn Rhif 10 wedi bod yn "anodd ond yn ddiddorol a chynhyrchiol iawn".

Ond er i lu o weinidogion ymddiswyddo ar ôl colli hyder yn Mr Johnson, dywedodd Mr Harri mai ei rôl ef oedd "sicrhau bod ni'n cadw'r sioe i fynd" nes y diwedd.

'Sefyllfa hyll iawn'

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod ym mis Gorffennaf, pan ymddiswyddodd llu o weinidogion cabinet Mr Johnson, dywedodd Guto Harri fod Rishi Sunak wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Canghellor y Trysorlys ar y pryd "heb hyd yn oed gael y cwrteisi i ddweud wrth y Prif Weinidog".

"Mi wnaeth Sajid Javid, oedd yn Ysgrifennydd Iechyd [Lloegr] ar y pryd, o leia' fynd i weld y Prif Weinidog a dweud wrtho wyneb yn wyneb," meddai.

"Ar ôl hynny roedd pethau'n digwydd yn reit sydyn.

"O'dd ddim pawb, wrth gwrs, yn troi. Roedd 'na bobl oedd am aros yn y llywodraeth, pobl yn gweld cyfle i gael eu dyrchafu yn y llywodraeth. Ond roedd hi'n 24 awr gythryblus tu hwnt."

Roedd Mr Harri yng nghanol bwrlwm Rhif 10 rhwng Chwefror a Medi 2022, pan roedd Boris Johnson dan bwysau yn dilyn adroddiadau o bartïon yn Downing Street yn ystod cyfnod Covid.

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o’r llun,

Sajid Javid (chwith) a Rishi Suak (dde) oedd dau o aelodau mwyaf blaenllaw cabinet Boris Johnson (canol)

"'Sa i'n credu bod dim byd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflafan lwyr, lle mae'r hwch yn mynd drwy'r siop," meddai Guto Harri wrth drafod y dyddiau olaf hynny.

"Mae pob awdurdod yn diflannu mewn amrantiad ac mae pawb yn troi ar ei gilydd, a 'sneb yn gwybod pwy sydd ar eu hochr nhw a phwy sydd yn eu herbyn nhw.

"Mae e'n sefyllfa hyll iawn fydden i ddim yn dymuno ar unrhyw un, a dyna oedd y diweddglo yn y diwedd.

"Roedd 'na gyfnod pan oedd hi ddim yn gwbl amlwg nad oedd 'na ddigon o bobl i lenwi'r swyddi [yn y Cabinet], ac y gallech chi gadw pethau i fynd. Ond 'naeth y cyfnod hwnnw ddim para'n hir iawn."

Wrth ymateb i'r adroddiadau ei fod wedi ceisio cynghori'r Prif Weinidog i barhau yn ei swydd, dywedodd Mr Harri: "Dim ond un person sy'n gallu gwneud y penderfyniad terfynol, a'r Prif Weinidog yw hwnnw.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Guto Harri gyda Boris Johnson yn 2009 pan oedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu i gyn-Faer Llundain

"O'n i ddim eisiau iddo fe droi rownd, fel mae e wedi gwneud o'r blaen ar ôl cymryd penderfyniadau mawr.

"Pan benderfynodd e dynnu mas o'r ras am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol rai blynydde'n ôl, dwi'n credu ei fod e wedi difaru'r penderfyniad yna byth ers hynny.

"Felly o'n i'n ymwybodol iawn bod rhaid iddo fe ddod i'r casgliad bod pethau ar ben, a tan bod e ei hun wedi dod i'r casgliad yna, fy job i fel un o'i lieutenants e, oedd sicrhau bod ni'n cadw'r sioe i fynd.

"Fi'n credu yn y diwedd, pan oedd ambell i weinidog oedd yn sylfaenol deyrngar iddo fe, ac yn gyfrifol iawn yn eu hagwedd at wasanaeth cyhoeddus, pan oedd un neu ddau o'r rheiny ddim eisiau dyrchafiad - oedd ddim yn mynd i greu trafferth iddo fe drwy gerdded mas, ond doedden nhw ddim yn barod i dderbyn swydd arall - dwi'n credu ein bod ni wedi sylweddoli bod y 'sgrifen ar y mur."

'Diffyg persbectif' am y partïon

Y partïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo'r pandemig oedd un o'r prif resymau am yr aniddigrwydd ddaeth â chyfnod Boris Johnson fel Prif Weinidog i ben.

"Fe ymddiheurodd e gant a mil o weithiau am sut effaith oedd hwnna'n ei gael ar bobl eraill," meddai Guto Harri.

"Ond p'un a'i yw hwn yn ddarlun poblogaidd neu beidio, roedd 'na ddiffyg persbectif a chyd-destun i'r holl adroddiadau o'r partïon yna, oedd ddim yn rhoi'r darlun llawn.

"Felly y gwir amdani yw, pan ddaeth yr heddlu i edrych fewn i a dorrwyd y gyfraith neu'r canllawiau mewn unrhyw fodd, fe ddaethon nhw i'r casgliad bod 'na un achlysur pan oedd y Prif Weinidog ar fai. Nawr mae'r holl bobl eraill 'na oedd yn camymddwyn yn anhysbys.

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Boris Johnson ddirwy gan yr heddlu yn dilyn ymchwiliad i un o'r partïon a ddigwyddodd yn Downing Street

"Dwi'n lico byw mewn byd lle mae pobl sy'n tramgwyddo yn cymryd y gosb eu hunain, a ddim un dyn yn gorfod cario'r baich ar eu rhan nhw i gyd.

"Nawr, mae 'na gyfrifoldeb ar unrhyw arweinydd i fod yn gyfrifol i raddau am ymddygiad pawb sy'n gweithio iddyn nhw, ond yn realistig mae hwnna'n anodd, ac hefyd nid dyna prif swyddogaeth Prif Weinidog.

"Eich job mawr chi yn y diwedd yw gwneud y penderfyniadau mawr er lles y gwledydd hyn.

"Mae 'na benderfyniadau lot mwy pwysig na gwybod os yw eich staff chi, oedd yn gweithio gyda'i gilydd ta beth, yn agor potel o win ar ddiwedd y diwrnod."

Dyfodol Boris Johnson

Er ei ymadawiad, mae Guto Harri yn credu bod "apêl" gan Boris Johnson o hyd fel gwleidydd.

"Fe allwch chi fynd o Gaer i Gaergybi ar y funud, ac heblaw pan y'ch chi'n dipio mewn i Fangor, ry'ch chi ar dir glas Ceidwadol," meddai.

"Nawr dim ond rhywun go eithriadol fel gwleidydd all berswadio rhai o'r llefydd hynny, heb sôn am y 'wal goch' ar draws gogledd Lloegr, i bleidleisio dros y blaid Geidwadol.

"Dyna lle mae cyfrinach apêl Boris Johnson yn y diwedd, a dyw hwnna ddim yn rhywbeth all neb ei gladdu'n barhaol 'sa i'n credu - er bod hi'n annhebygol iawn hyd y gwela i y daw e 'nôl yn y dyfodol agos o gwbl."