Apêl am dystion yn dilyn ymosodiad rhyw ar drên

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf drenau AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y ddau ddyn ar y trên yng ngorsaf Abertawe

Mae'r heddlu'n apelio am dystion i ymosodiad rhyw ar drên rhwng Abertawe a Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth fod menyw wedi dal trên tua 16:00 ddydd Iau, 9 Chwefror.

"Daeth dau ddyn ar y trên yn Abertawe am 17:00 ac eistedd wrth ei hochr," meddai.

"Ar ôl i'r trên adael yr orsaf dechreuodd y ddau geisio cynnal sgyrsiau â hi, er nad oedd hi'n dymuno hynny.

"Ar sawl achlysur roedd y ddau wedi cyffwrdd â'r fenyw mewn ffordd amhriodol, cyn gadael y trên yn Llanelli tua 17:25 o'r gloch."

Roedd dau deithiwr arall wedi gweld y digwyddiad.

'Acen Bwylaidd gref'

Yn ôl disgrifiad yr heddlu, roedd y ddau yn ddynion gwyn, a'r ddau yn siarad gydag "acen Bwylaidd gref".

Roedd y dyn cyntaf tua 5'5" o daldra, gyda gwallt brown, o faint cyffredin, ac yn cario bag ar ei gefn.

Roedd yr ail yn dalach na'r cyntaf, yn fain, gyda gwallt brown, a barf cwta.

Credir bod un ohonynt yn gwisgo trowsus cargo gwyrdd, llac.

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn apelio am dystion i'r digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai fod o help i'w hymchwiliad.