Rhybudd bod dim modd gwarchod pob tŷ rhag llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio na fydd modd "amddiffyn pob tŷ ym mhob achos o lifogydd" yn y dyfodol, wrth i'r hinsawdd newid.
Yn ôl y corff sy'n gyfrifol am adeiladu amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru, mae risg y gallai'r sefyllfa waethygu yn y dyfodol, ac felly maen nhw eisiau "newid y sgwrs" o amddiffyn i addasu.
Mae 250,000 o gartrefi yng Nghymru - un o bob wyth - mewn perygl o lifogydd o'r môr, afonydd neu o ddŵr arwynebol, ac mae newid hinsawdd yn golygu bod y risg yna'n mynd i gynyddu.
Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, mae Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo i'n cynllun llifogydd mwyaf erioed ac mi fyddwn ni'n gwario £214m dros y tair blynedd nesaf".
'Angen amddiffyn busnesau'
Mae Philip Thomas, perchennog busnes gafodd ei daro gan lifogydd Storm Dennis yn 2020, yn teimlo fel bod pobl yn cael "eu taflu dan y bws".
Yn dilyn y difrod ar safle Bragdy Twt Lol yn Nhrefforest, mae Mr Thomas wedi talu i roi llifgloddiau o flaen y drysau, ond mae'n galw ar awdurdodau i beidio anghofio am fusnesau fel ei un ef.
"Mae'r rhan helaeth o'r Cymoedd wedi ei adeiladu ar dir isel yn agos i'r afon," meddai.
"Mae hwn yn rhywbeth mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru gymryd o ddifri'.
"'Dyn ni wedi 'neud beth ni'n gallu. 'Dyn ni wedi gosod llifgloddiau ar yr adeilad ond ni hefyd angen i'r llywodraeth a CNC 'neud rhywbeth i amddiffyn ni hefyd."
Does dim awgrym na fydd ardal Trefforest yn cael ei hamddiffyn yn y dyfodol, ac yn ôl Mike Evans o CNC, fe fydd y corff yn parhau i amddiffyn rhai ardaloedd.
Ond mae'n rhybuddio: "Weithiau mae'r achos ariannol ddim yn gweithio mas, oherwydd ei fod e'n costio mwy i amddiffyn y tai na gwerth y tai, ac weithiau does dim ateb ymarferol o gwbl.
"Allwn ni ddim adeiladu ein ffordd allan o'r argyfwng newid hinsawdd - dyna'r broblem."
'Mwy o anghydraddoldeb'
Bydd Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Cymru yn ysgrifennu adroddiad ar wytnwch isadeiledd Cymru yn y blynyddoedd nesaf.
Mae un o'r comisiynwyr, Dr Eurgain Powell, yn dweud ei bod hi'n bryd i bobl "ddeffro" gan fod effeithiau newid hinsawdd eisoes wedi ein cyrraedd ni.
"Mae'r dystiolaeth i gyd yn dweud wrthon ni bod newid hinsawdd yma," meddai.
"Mae e'n mynd i waethygu ac mae angen i ni ddeffro a deall beth mae hwnna'n golygu i bawb, beth ni'n gallu gwneud i leihau y newidiadau yn yr hinsawdd, a beth ni'n gallu gwneud i addasu i'r effeithiau sy'n dod hefyd."
Mae Dr Powell hefyd yn rhybuddio y gallai arwain at sefyllfa annheg, wrth i unigolion breintiedig allu addasu neu symud oddi wrth ardaloedd sy'n debygol o lifogi.
"'Dw i'n credu bydd pobl â modd yn gallu fforddio gwario mwy o arian ar eu cartrefi, neu yn gallu symud i ffwrdd oherwydd y risg," meddai.
"Wedyn bydd pobl sydd ddim yn gallu fforddio gwneud unrhyw beth amdano fe, bod nhw'n cymryd mwy o'r baich.
"Mae hwnna'n risg ac mae'n rhaid i ni feddwl am gyfiawnder pryd y'n ni'n trio meddwl am yr atebion hirdymor."
Rhybuddiodd y Gweinidog Hinsawdd Julie James: "Gallwn ddisgwyl gweld lefelau'r môr yn codi a thywydd eithafol yn cynyddu oherwydd newid hinsawdd, a dyna pam rydyn ni'n gweithio â phartneriaid i gefnogi cymunedau fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.
"Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu pobl, eiddo ac isadeiledd ac mae'n bwysig bod penderfyniadau felly'n cael eu gwneud ar lefel lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023