Cwest Sara Jones: 'Pryder' rhieni am gyswllt â'r actor Llion Williams

  • Cyhoeddwyd
Sara Anest Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llion Williams ei fod wedi cyfarfod â Sara Jones ar ôl beirniadu ei pherfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol 2017

Roedd rhieni actores ifanc a fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn 2021 yn "bryderus" am ei bod mewn cyswllt ag actor adnabyddus, mae cwest wedi clywed.

Bu farw Sara Anest Jones, actores 25 oed o Gorwen, dridiau wedi gwrthdrawiad ger Bangor ym mis Mawrth 2021.

Cafodd Gemma Pasage Adran, nyrs 32 oed o'r Ffilipinau, ei lladd yn y fan a'r lle.

Mae cwest i farwolaeth Ms Jones eisoes wedi clywed bod ei char wedi croesi i ochr anghywir y lôn cyn gwrthdaro â char oedd yn dod o'r cyfeiriad arall.

Dywedodd arbenigwr traffig fforensig mai'r rheswm mwyaf tebygol bod car Ms Jones wedi mynd i ochr arall y ffordd oedd y lefel uchel o alcohol yn ei gwaed.

'Perthynas blatonig yn unig'

Ar ail ddiwrnod y cwest yn Stoke-on-Trent ddydd Mawrth, darllenwyd datganiad gan y crwner ar ran rhieni Ms Jones lle roedden nhw'n disgrifio derbyn eiddo eu merch ar ôl y gwrthdrawiad.

Daethon nhw o hyd i bapur A4 ym mag cefn eu merch, gydag un gair Cymraeg mewn llawysgrifen arno'n dweud: "Sori".

Wrth archwilio ffôn symudol Ms Jones, dywedodd ei rhieni eu bod wedi canfod ei bod yn ôl mewn cysylltiad â'r actor Llion Williams.

Dywedodd Mr a Mrs Jones fod hyn yn "bryderus" iddyn nhw, a'u bod yn credu bod y cyswllt gyda'r actor adanbyddus wedi dod i ben yn 2019.

Ond dywedodd y crwner nad oedd unrhyw beth i awgrymu nad oedd perthynas Llion Williams a Sara Jones yn ddim ond un gyfeillgar adeg y gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actor Llion Williams wedi bod mewn cyswllt â Sara Anest Jones ar noson y gwrthdrawiad

'Be ydy'r pwynt. Rhy hwyr. X'

Cafodd cynnwys e-byst a negeseuon testun rhwng Sara Jones a Mr Williams yn y dyddiau a'r oriau yn arwain at y gwrthdrawiad eu cyfieithu o'r Gymraeg a'u darllen i'r gwrandawiad yn Saesneg.

Mae'r negeseuon canlynol wedi eu trosi yn ôl i'r Gymraeg.

Mewn un neges, ysgrifennodd Mr Williams at Ms Jones gan ddweud: "Mae croeso i chdi biciad draw i weld y gêm", gan gyfeirio at gêm bêl-droed Cymru gafodd ei chwarae ar noson y gwrthdrawiad.

Dywedodd neges a anfonwyd gan Mr Williams ar ôl cyfnod y gwrthdrawiad: "Mae hyn yn chwerthinllyd. Gwres, canhwyllau, wedi mynd i gymaint o ymdrech. Be ydy'r pwynt. Rhy hwyr. X"

Darllenwyd datganiadau i'r gwrandawiad hefyd gan Llion Williams.

Dywedodd ei fod wedi cyfarfod â Sara Jones ar ôl beirniadu ei pherfformiad yng nghystadleuaeth Gwobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 ac wedi cydnabod ei thalent "eithriadol".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sara Anest Jones yn "gwneud yn dda" adeg y gwrthdrawiad, medd ei theulu

Dywedodd Mr Williams eu bod wedi ffurfio cyfeillgarwch ac y byddai'n mynd i weld ei sioeau.

"I mi roedd y cyfeillgarwch yn blatonig yn unig. Rwy'n credu efallai ei bod wedi meddwl y gallai ein perthynas ddatblygu'n rhywbeth mwy rhamantus."

Dywedodd y gallai Ms Jones fod yn eitha' "trwm" ar adegau a'i fod wedi dweud wrthi nad oedd eisiau'r un peth.

Dywedodd Mr Williams nad oedden nhw wedi cysylltu â'i gilydd ers sawl mis, ond eu bod wedyn wedi dechrau cyfarfod yn gymdeithasol ac y byddai Ms Jones yn mynd i'w weld yn ei dŷ ar sawl achlysur.

"Roeddwn i'n gallu gweld bod Sara yn eithaf bregus ac roeddwn i'n meddwl y gallwn i helpu," meddai'r datganiad.

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi siarad yn agored ac yn gyhoeddus yn y gorffennol am ei hanes iechyd meddwl ei hun.

Ar noson y gwrthdrawiad, dywedodd Mr Williams nad oedd yn sicr y byddai Ms Jones yn mynd i'w weld gan ei bod hi hefyd wedi sôn am fynd i ymweld ac aros gyda ffrind.

Dywedodd Mr Williams, oherwydd cyflwr iechyd, fod ganddo "arferion" penodol oedd yn cynnwys cynnau tân a chanhwyllau wrth wylio Cymru'n chwarae pêl-droed.

Dywedodd Mr Williams fod marwolaeth Sara Anest Jones wedi effeithio'n "fawr" arno a bod ei marwolaeth yn golled fawr i'w theulu ac i'r byd actio.

'Lefel o feddwdod'

Cafwyd tystiolaeth hefyd gan Gavin Davies, a oedd yn archwiliwr traffig fforensig gyda Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd.

Wrth gyfeirio at ddiwrnod y gwrthdrawiad angheuol ar 30 Mawrth 2021, dywedodd fod car Seat Leon glas Ms Jones wedi croesi i ochr anghywir yr A4078 ger cylchfan Y Faenol.

Fe darodd ei char yn erbyn Honda Civic coch, yr oedd Ms Adran a'i phartner Warren Culato yn teithio ynddo.

Ychydig cyn y digwyddiad, roedd car tebyg i un Ms Jones wedi'i ddal ar gamerâu cylch cyfyng ym Mangor, ac roedd i'w weld yn "cael trafferth gydag ymwybod â gofod (spatial awareness)".

Nid oedd gan Mr Davies eglurhad am y weithred, ond daeth i'r casgliad mai'r rheswm mwyaf tebygol oedd mai "gweithredoedd dynol" Ms Jones oedd yn gyfrifol, ac y gallai hynny fod oherwydd "ei lefel o feddwdod".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gemma Adran - a fu farw yn y gwrthdrawiad - yn byw yn ardal Bangor ac yn gweithio fel nyrs mewn cartref gofal ym Mhorthmadog

Cafodd post mortem ei gynnal ar Ms Jones ar 9 Ebrill 2021, gan Dr Muhammad Aslam, patholegydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dangosodd yr archwiliad fod Ms Jones wedi dioddef nifer o anafiadau, ond y mwyaf arwyddocâol oedd ergyd i'w bol.

Fe achosodd hynny friw i'r coluddyn a arweiniodd yn ei dro at peritonitis, sef chwydd yn leinin yr abdomen.

Roedd anafiadau gwasgu hefyd wedi lleihau'r siawns o oroesi, meddai.

Roedd manylion archwiliad post mortem ar gorff Ms Jones wedi dangos bod lefel yr alcohol yn ei gwaed dair gwaith dros y trothwy cyfreithlon i yrru car.

Wrth grynhoi'r adroddiad post mortem dywedodd y Crwner Cynorthwyol, Duncan Ritchie, bod lefel yr alcohol yn "ddigon i achosi lefel sylweddol o feddwdod i yfwr cyffredin".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest nad oedd unrhyw arwydd bod Sara Jones yn hunanladdol

Roedd Ms Jones wedi ennill nifer o wobrau llenyddiaeth a drama, gan gynnwys Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

Ond roedd hi hefyd wedi byw gyda'r anhwylder bwyta anorecsia a diffyg hunanhyder, ac wedi cael help gwasanaethau iechyd meddwl.

Ar ddiwrnod cyntaf y cwest yn Stoke-on-Trent i farwolaeth Ms Jones, clywodd y gwrandawiad bod Ms Jones wedi cael triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau iechyd meddwl dros gyfnod o flynyddoedd.

Mewn datganiad, cafodd ei disgrifio gan ei thad Aled Jones fel merch "llawn bywyd ac egni", a'i bod yn gwneud "yn dda iawn" adeg y gwrthdrawiad.

Fe ddaeth y gwrthdrawiad, meddai, yn "sioc lwyr".

Mae'r cwest yn parhau.