UEFA: Sicrhau cydraddoldeb yn flaenoriaeth i Laura McAllister

  • Cyhoeddwyd
Laura McAllisterFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura McAllister nad ydy hi'n "ofnus o gwbl i siarad" yn UEFA

"Mynd ati i wella amrywiaeth o fewn pêl-droed" fydd un o flaenoriaethau'r Athro Laura McAllister, sydd wedi ei phenodi yn aelod o bwyllgor gwaith UEFA.

Cafodd Ms McAllister, sy'n gyn-gapten tîm pêl-droed merched Cymru, ei hethol yn ddiwrthwynebiad i'r swydd fis diwethaf.

Hi yw'r person cyntaf o Gymru i wasanaethu ar bwyllgor corff llywodraethu pêl-droed Ewrop.

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd fod yna lot o waith i'w wneud er mwyn sicrhau mwy o gydraddoldeb o fewn y gamp.

'Mae'n bwysig inni godi ein lleisiau'

"Ni gyd yn gwybod 'sdim lot o gydraddoldeb ym myd chwaraeon ar hyn o bryd," meddai.

"Mae pethau'n newid a fi'n croesawu hwn wrth gwrs - ond mae lot o waith i'w wneud.

"Ni ar ddechrau'r daith i sicrhau mwy o gydraddoldeb felly mae'n bwysig inni godi ein lleisiau a sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i ferched a menywod â dynion a bechgyn.

"Fi ddim yn ofnus o gwbl i siarad ond fi yn deall y sefyllfa wleidyddol ym maes UEFA ac mae angen bod yn barchus.

"Softly, softly yw'r approach fi'n meddwl."

Mae'r Athro McAllister, 58, yn ddirprwy gadeirydd pwyllgor pêl-droed merched UEFA ac yn aelod o'i weithgor ar gydraddoldeb rhywiol.

Enillodd 24 cap dros Gymru, a hi oedd un o'r lleisiau mwyaf blaenllaw i berswadio Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod yr angen am dîm pêl-droed rhyngwladol i ferched.