Laura McAllister yn colli allan ym mhleidlais FIFA

  • Cyhoeddwyd
Laura McAllisterFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Mae cyn-gapten Cymru Laura McAllister wedi methu yn ei hymgais i gael ei hethol fel cynrychiolydd benywaidd UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, ar Gyngor FIFA.

Fe wnaeth McAllister golli'r bleidlais yn erbyn y person sydd eisoes yn y rôl, Evelina Christillin o'r Eidal, o 33 pleidlais i 22.

Roedd McAllister, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, yn gobeithio bod y person cyntaf o Gymru - a'r ddynes gyntaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig - i gael ei hethol i'r cyngor.

Dyma oedd yr ail siom o'r diwrnod i ymgeisydd o Gymru, wedi i David Martin o Ogledd Iwerddon gael ei ffafrio dros lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Kieran O'Connor ar gyfer rôl is-lywydd FIFA.

Yn wahanol i'w gwrthwynebydd hi yn yr etholiad, a chynghorwyr eraill FIFA, mae McAllister ei hun yn gyn-chwaraewr.

Mae hi wedi bod yn allweddol yn natblygiad pêl-droed merched yng Nghymru ac, yn y 1990au cynnar, hi oedd un o'r lleisiau mwyaf blaenllaw i berswadio Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod yr angen am dîm pêl-droed rhyngwladol i ferched yng Nghymru.

Roedd hi'n gadeirydd Chwaraeon Cymru am chwe blynedd, ac mae wedi bod yn ddirprwy gadeirydd pwyllgor merched UEFA ers 2017.

Pynciau cysylltiedig