Cwpan y Byd: Swyddogion Qatar wedi gwrthwynebu het enfys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr Athro Laura McAllister: 'Roedd e'n brofiad eitha llawdrwm'

Mae'r Athro Laura McAllister, sy'n gyn-gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru, wedi disgrifio sut y gwnaeth swyddogion diogelwch ofyn iddi dynnu ei het 'wal enfys' cyn gêm Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar.

Cafodd Ms McAllister ei chwestiynu gan swyddogion diogelwch nos Lun cyn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Stadiwm Ahmad Bin Ali.

Mae'r het enfys, ar batrwm het eiconig Cymru, yn cefnogi'r gymuned LHDTC+.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddant yn codi'r mater gyda FIFA - y corff sy'n gyfrifol am drefnu Cwpan y Byd.

Yn y Senedd, dywedodd Lesley Griffiths bod Llywodraeth Cymru "mewn deialog" gyda llysgenhadaeth Prydain yn Doha yn ceisio "eglurhad brys nad yw hetiau bwced enfys neu gareiau neu grysau-T yn cael eu gwahardd o'r stadia, a dwi'n mawr obeithio na welwn ni hynny'n cael ei ailadrodd".

Mae cais wedi ei wneud i FIFA am sylw.

'Profiad llawdrwm'

Mae fideo o'r digwyddiad sydd wedi ei rannu yn eang ar wefannau cymdeithasol yn awgrymu fod y swyddogion wedi dweud wrthi i dynnu'r het.

Fe wnaeth hi wedyn guddio'r het a mynd â hi mewn i'r stadiwm.

Mae gan Ms McAllister yrfa ym myd chwaraeon - mae'n gyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru ac yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA (y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop).

Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod wedi cael rhywfaint o rybudd gan y rhai oedd o'i blaen yn y ciw fod swyddogion diogelwch yn stopio pobl oedd yn gwisgo hetiau enfys.

"Pan o'n i'n ciwio fyny i fynd mewn i'r stadiwm, gyda pobl sy'n gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ro'n i wedi clywed bod issue gyda pobl sy'n gwisgo het enfys LGBT pêl-droed Cymru.

"Nes i benderfynu bod cadw yr het yn bwysig i ni yn Qatar a sefyll lan dros ein hegwyddorion.

"I ni i fod yma gyda Cymru mae'n bwysig hefyd hyrwyddo egwyddorion ni a dangos bod Cymru yn genedl inclusive a tolerant ac yn y blaen.

"I fi mae'n bwysig sefyll lan a dweud na ni just ddim yn derbyn y sefyllfa.

"Cawsom wybod gan y swyddogion bod hyn oherwydd y rheolau. Yn amlwg rwy'n gweithio ym maes pêl-droed ac felly fe wnes i ofyn pa reol ond doedden nhw ddim am ddweud.

"Roedd e'n brofiad eithaf llawdrwm. Yn syth bin fe ddechreuodd swyddogion fy amgylchynu a dweud wrthai dynnu yr het i ffwrdd."

Cefnogi hawliau

Daw'r digwyddiad ar ôl i gapten Cymru Gareth Bale gael cyfarwyddyd gan FIFA fore Llun i beidio gwisgo rhwymyn braich OneLove yn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau neu wynebu cosb.

Mae Ms McAllister, Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o lysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y twrnament.

Mae'r BBC yn deall fod swyddogion wedi gofyn iddi dynnu'r het gan ei bod yn eitem waharddedig.

Daw'r digwyddiad er bod FIFA wedi rhoi sicrwydd y byddai gan gefnogwyr hawl i wisgo eitemau o'r fath.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Laura McAllister 🌻 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Laura McAllister 🌻 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Dywedodd Ms McAllister ar Twitter: "Felly, er gwaetha geiriau da FIFA cyn yr achlysur, mae hetiau enfys Cymru wedi cael eu cymryd yn y stadiwm, gan gynnwys un fi.

"Fe ges i sgwrs am hyn gyda'r stiwardiaid - mae gennym dystiolaeth fideo o hyn."

Ychwanegodd y byddai yn parhau i sefyll dros ei hegwyddorion.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod wedi ei siomi o glywed adroddiadau fod aelodau o'r Wal Goch, gan gynnwys staff y gymdeithas, wedi cael gorchymyn i dynnu a chael gwared ar hetiau enfys cyn cael mynediad i'r stadiwm.

"Fe gafodd yr hetiau hyn eu llunio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Mae'r gymdeithas wedi bod yn casglu gwybodaeth am y digwyddiadau honedig yma a byddwn yn codi'r mater yn uniongyrchol gyda FIFA heddiw."

Diogelwch cefnogwyr

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, ei fod wedi codi mater hawliau cefnogwyr a'r math o groeso maent wedi ei gael.

"Rwyf newydd ddychwelyd o Qatar.

"Fe wnaethom godi materion ynglŷn â bod yn wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth a chroesawu'r gwledydd ac roedd swyddogion Qatar yn awyddus i wneud hynny.

"Fy nyletswydd yw sicrhau fod cefnogwyr Lloegr a Chymru sydd yn Qatar i fwynhau'r pêl-droed yn gallu gwneud hynny - mwynhau eu hunain, gallu bod yn nhw eu hunain ac i fod yn ddiogel wrth wneud hynny."

Dywedodd Davinia Green, cyfarwyddwr Stonewall Cymru, fod beth ddigwyddodd yn achos pryder.

"Mae cwpan y byd i fod yn achlysur cynhwysol ac yn un sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd.

"Felly roeddem yn gobeithio na fyddai pethau fel hyn yn digwydd.

"Ond o wybod fod pobl LHDTC+ yn Qatar yn wynebu anghyfiawnderau mawr o ran hawliau ac o bosib yn wynebu'r gosb eithaf am fod yn LHDTC+ nid yw'n lawer o syndod."

Neges bwerus?

Yn Senedd Cymru brynhawn Mawrth awgrymodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod cyfle yr wythnos nesaf "o gwmpas gêm Cymru yn erbyn Lloegr i anfon neges bwerus, o bosib yn cynnwys swyddogion y ddwy gymdeithas [bêl-droed], ond hefyd [Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething] i wisgo rhwymyn braich OneLove, neu symbol enfys arall, nid yn unig yn y stadiwm, ond hefyd mewn cyfarfodydd swyddogol".

Atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths ar ran Llywodraeth Cymru: "Rwy'n llwyr ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud am gêm Cymru-Lloegr yr wythnos nesaf, a sut y gallwn wneud y datganiad pwerus hwnnw."

"I ni, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig a dwi'n meddwl bod FIFA wedi colli cyfle o'r fath ac maen nhw wedi achosi cymaint o boen a gofid i gymaint o bobl," ychwanegodd.