Cannoedd o ysgolion ynghau wrth i eira daro de Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ffordd fynydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar y ffordd fynydd rhwng Pontypridd a Llanwynno yn Rhondda Cynon Taf fore Mercher

Mae eira dros nos wedi achosi trafferthion bore Mercher mewn sawl ardal yn ne Cymru, gyda channoedd o ysgolion ynghau.

Mae nifer o ysgolion mewn sawl sir yn y Cymoedd eisoes wedi cyhoeddi eu bod ar gau, gydag o leiaf un ysgol ynghau mewn 14 sir.

Mae rhybuddion melyn am eira a rhew mewn grym i'r mwyafrif o'r wlad tan ddydd Gwener.

Mae hyd at 10cm o eira wedi disgyn ar dir uchel, tra bod 3-5cm o eira wedi disgyn yn fwy eang ar draws y canolbarth a'r de.

Ond y lle oeraf yng Nghymru dros nos oedd Capel Curig yn Eryri, ble roedd hi'n -4.2C.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa yn Y Coed Duon, Sir Caerffili, fore Mercher

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi deffro i weld blanced o eira mewn sawl man fore Mercher, gan gynnwys yma ym Mhontypridd

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn Sir Caerffili wedi cau, ac mae degau o ysgolion ynghau yn siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae rhai ysgolion wedi cau hefyd yn Sir Benfro, Sir Gâr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd i yrwyr gymryd gofal - dyma'r M4 yng ngogledd Caerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng ngorsaf drenau Lefel Uchel y Mynydd Bychan yng ngogledd Caerdydd fore Mercher

Mae'r eira hefyd wedi gorfodi sawl ffordd i gau, yn enwedig yn y Cymoedd.

Ymysg y ffyrdd sydd ar gau mae'r A4061, Ffordd Mynydd y Rhigos, rhwng Treherbert a Hirwaun, a'r A469 rhwng Draenen Pen-y-graig (Thornhill) a'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd.

Cafodd problemau hefyd eu hadrodd ar yr A469 dros Fynydd Caerffili, ac fe wnaeth gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd gau'r A4059 ym Mannau Brycheiniog.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Lees
Disgrifiad o’r llun,

Eira yn Llanilltud Faerdref yn Rhondda Cynon Taf

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd ar y chwith mewn grym tan fore Iau, a'r rhybudd ar y dde rhwng bore Iau a 14:00 ddydd Gwener

Mae rhybudd melyn am rew ac eira mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer y mwyafrif o'r wlad ers hanner nos, a bydd yn para tan 07:00 fore Iau.

Roedd hwnnw yn wreiddiol ar gyfer y canolbarth a'r de yn unig, ond mae bellach mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r gogledd hefyd.

Mae rhybudd arall am eira mewn grym - unwaith eto i'r mwyafrif o'r wlad ond gyda disgwyl y gwaethaf yn y gogledd y tro hwn - o 07:00 fore Iau, gyda hwnnw'n weithredol tan 14:00 ddydd Gwener.

Dadansoddiad cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Llyr Griffiths-Davies

Wrth i ffrynt orwedd ar draws y de bydd yr eirlaw a'r eira'n parhau ddydd Mercher, gan ddwysau erbyn diwedd y prynhawn ac ymledu dros y canolbarth a'r gogledd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyd at 5cm o eira gronni ar dir isel yn ystod y dydd, a 5-10cm ar dir uchel mewn ychydig oriau.

Dros Fannau Brycheiniog ac ar dir uchel yn y de-ddwyrain gallai hyd at 20cm o eira gronni erbyn nos Fercher.

Dros nos, mae perygl o rew wrth i'r tymheredd ddisgyn islaw'r rhewbwynt i nifer, yn arbennig mewn mannau gwledig ac ar draws y dwyrain.

Ffynhonnell y llun, Amanda Grey
Disgrifiad o’r llun,

Floki y ci yn mwynhau'r eira yn Abertawe

Disgrifiad o’r llun,

Dim siawns am gêm o golff ar y cwrs yma ym Merthyr Tudful

Ben bore dydd Iau bydd glaw yn ymledu o'r de-orllewin, gyda rhybudd am ragor o eira ar draws y de-ddwyrain, y canolbarth a'r gogledd.

Yn ystod y prynhawn mi ddylai droi ychydig yn fwynach, gyda glaw trwm ar draws y canolbarth a'r de.

Nos Iau bydd rhagor o eira, yn arbennig ar draws y gogledd a'r canolbarth erbyn oriau mân bore dydd Gwener.

Mi fydd y glaw a'r eira'n ymledu tua'r de'n ystod y bore, ond mi ddylai'r glaw glirio tipyn o'r eira fydd wedi cronni.

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Jade McFarland
Disgrifiad o’r llun,

Vinnie o Gaerdydd yn mwynhau ei brofiad cyntaf o eira

Ffynhonnell y llun, Melissa Rossiter
Disgrifiad o’r llun,

Copa Mynydd y Garth ger Pentyrch yng ngogledd Caerdydd fore Mercher

Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi

Pynciau cysylltiedig