Eira: Rhybudd i beidio teithio a dros 300 o ysgolion i gau
- Cyhoeddwyd

Ardal Tregarth ger Bangor dan flanced o eira fore Gwener
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio gyrru ddydd Gwener oni bai fod hynny yn angenrheidiol.
Roedd cannoedd o ysgolion ar gau - yn bennaf yn y gogledd - wrth i eira a rhew achosi trafferthion.
Mae'n dilyn deuddydd o dywydd garw gyda'r de wedi'i tharo waethaf ddydd Mercher cyn i'r tywydd gaeafol symud tua'r gogledd ddydd Iau.
Yn dilyn rhybudd oren i rannau o'r gogledd tan fore Gwener, roedd rhybudd melyn am eira mewn grym yn ehangach ar gyfer mwyafrif y wlad tan 14:00 brynhawn Gwener.
Mae disgwyl i'r tymheredd barhau'n isel gyda rhybudd am rew i sawl rhan o Gymru tan 10:00 fore Sadwrn.
Roedd dros 360 o ysgolion yn y gogledd a'r canolbarth ar gau unwaith yn rhagor ddydd Gwener, gan gynnwys pob un o'r 81 yn Sir y Fflint.
Roedd hefyd yn cynnwys dros 50 o ysgolion yn Sir Wrecsam, Sir Ddinbych, Powys a Gwynedd, a bron i 50 yn Sir Conwy.
Eira yn Nyffryn Dyfrdwy
Roedd campysau Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor - ym Mangor, Llangefni, Parc Menai, Pwllheli a Dolgellau - oll ar gau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud fod amodau gyrru yn parhau i fod yn wael - yn bennaf mewn ardaloedd mewndirol.
Dywedodd llefarydd fod rhai ardaloedd wedi gweld "cryn dipyn o eira yn disgyn dros nos".

Gwaith caled i dractor a'i yrrwr, Geraint Edwards, wrth balu drwy eira trwchus Drws y Nant, Y Bala

Doedd hi ddim yn edrych yn debygol y byddai trigolion Yr Wyddgrug yn symud eu ceir fore Gwener
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y cyfamser fe ddywedodd yr Urdd wrth BBC Cymru eu bod wedi "gorfod gohirio ambell i Eisteddfod Cylch" ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd bod "sefyllfa pob ardal yn wahanol" ac mai'r cyngor yw i "wirio cyfryngau cymdeithasol rhanbarthol yr Urdd ac yr ysgolion am y diweddaraf".
"Mae trefniadau yn cael eu hail gynllunio trwy'r ysgolion ac mi fydd yr unigolion sy'n cael ei effeithio yn cael gwybod," meddai.
Mae rhai o gemau chwaraeon y penwythnos hefyd wedi cael eu gohirio, gan gynnwys yr ornest bêl-droed rhwng Y Seintiau Newydd a'r Bala yn Uwch Gynghrair Cymru, a Glyn Ebwy v Merthyr yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru.

Cafodd gweithwyr eu galw allan yn Nhreffynnon yn dilyn adroddiadau bod cyflenwad pŵer wedi torri

Mae'r eira yn drwch ar diroedd uchel mewn sawl rhan o'r gogledd, gan gynnwys Rachub yng Ngwynedd
Fe wnaeth dros 60 o dai ym Merthyr Tudful golli pŵer for Gwener ond mae'r broblem wedi cael ei datrys erbyn hyn.
Yn y cyfamser, fe wnaeth SP Energy Networks rybuddio fod nifer wedi colli cysylltiad trydan yn ardaloedd Yr Wyddgrug a Threffynnon yn Sir y Fflint ac yn ardal Bwlchgwyn ger Wrecsam.

Yr oerfel yn ddim trafferth i fochyn bach yn Sir y Fflint fore Gwener
Ymhlith y ffyrdd yn y gogledd sydd wedi bod ar gau mae rhan o'r A55 yn Sir y Fflint, o'r gorllewin rhwng Cyffordd 36 a Chyffordd 35 ger Brychdyn.
Cafodd yr A5 ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Betws-y-coed a Thregarth, yn ogystal â'r A44 ym Mhowys, yr A543 ger Pentrefoelas yn Sir Conwy, a'r A470 rhwng Dinas Mawddwy a Cross Foxes.
Dywedodd Traffig Cymru fod yr A542 Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych, yr A458 rhwng Buttington ac Halfway House ym Mhowys, a'r A4086 rhwng Capel Curig a Llanberis hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad.
Cafodd nifer o ffyrdd llai yn y gogledd a'r canolbarth hefyd eu cau oherwydd yr eira.

Gyda ffyrdd fel yr A470 rhwng Dolwyddelan a Betws-y-coed dan drwch o eira, mae rhybudd i deithwyr beidio mentro allan onibai bod rhaid
Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast dywedodd Katie Wilby o Gyngor Sir y Fflint fod amodau ar ffyrdd y sir yn "heriol".
"Rydyn ni wedi gweld 20-40cm o eira mewn rhai llefydd, yn enwedig ar dir uchel, a dwi'n meddwl bod y rhan fwyaf o Sir y Fflint wedi deffro i eira y bore 'ma," meddai.
Dywedodd fod y cyngor eisoes wedi gwagio tua 360 tunnell o raean ar y ffyrdd, a'u bod yn "gweithio'n galed" i gadw'r ffyrdd ar agor.
"Ond bydden ni'n cynghori pobl i beidio teithio oni bai ei bod hi'n angenrheidiol," meddai.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r rheilffyrdd hefyd wedi eu heffeithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn atal gwasanaethau rhwng Amwythig a Llanelli a Blaenau Ffestiniog a Llandudno.
Fe ddywedon nad oes gwasanaethau bws wedi eu gosod yn eu lle chwaith yn sgil y tywydd.

Roedd rhybudd oren mewn grym tan 09:00 fore Gwener, a'r rhybudd melyn tan 14:00

Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023