Oriel: Mwy o eira dros Gymru
- Cyhoeddwyd

Defaid John Jones yn gwerthfawrogi'r bwyd ychwanegol ger Llandyrnog, Sir Ddinbych
Mae'r eira wedi troi yn law i nifer yn y de a oedd yn mwynhau'r stwff gwyn ddoe, ac mae'r plu wedi teithio tua'r gogledd erbyn heddiw.

Roedd hi'n bwrw eira'n drwm yn Ninbych y bore 'ma

Yr eira'n drwch ar hyd y ffordd yn Llanbrymair

Mae'n siŵr fod loris graeanu yn brysur ledled y gogledd

Mae Sidni yn cael diwrnod i'r brenin yn chwarae yn ei ardd gefn yn Rhyd y foel, gen Abergele

Gobeithio bod pobl yn gwybod lle maen nhw'n mynd...

Tir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hôb, Sir y Fflint dan flanced o eira - un o'r cannoedd o ysgolion sydd wedi cau ledled y gogledd heddiw

Dyma oedd yr olygfa yn Ysbyty Ystwyth, Ceredigion ben bore Iau

Tasg y dydd: Adeiladu dyn eira. Mae Ina'n cael hwyl arni yn Abergele...

Tra bod Cynan wedi meistrioli'r gamp yn Aberhosan, ger Machynlleth!

Gobeithio fod 'na neb angen gadael y tŷ... tywydd swatio adref ydi hi yn Llannefydd, Conwy

Yr eira yn parhau i ddisgyn yn Eglwysbach, sir Conwy

Eglwys St Paul ym mhentref Gorsedd, Sir y Fflint, yn edrych yn hardd

Yr eira'n disgyn yn drwm yn Abergele

Mae'r eira wedi effeithio ar bob math o greaduriaid...
Hefyd o ddiddordeb: