Gwyliwch: Lisa Gwilym yn edrych nôl dros ei gyrfa
- Cyhoeddwyd
'Roedd wyneb Lisa Gwilym yn bictiwr pan gyhoeddodd Owain Schiavone mai hi oedd enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn ngwobrau'r Selar eleni yn fyw ar Radio Cymru.
Syfrdan, anghrediniaeth, bron nad oedd hi'n coelio'r hyn a glywodd! Ond, doedd y cyhoeddiad ddim yn syndod i neb arall.
Ers ugain mlynedd mae Lisa Gwilym wedi bod yn llais cyfarwydd i wrandawyr yr orsaf genedlaethol ac yn ffynhonnell o wybodaeth ac ecsglwsifs i ffans cerddoriaeth Gymraeg. Bu'n llysgennad i rai o'n bandiau mwyaf, yn rhoi amser a llwyfan i artistiaid amrywiol, ifanc a phrofiadol, ar ei rhaglen ac mae'n parhau i gefnogi hyd heddiw.
"Digwydd bod o'n i wedi bod yma [ym Mangor] yn gwneud eitem i raglen Dafydd Meredydd pan oedd o'n 'neud ei sioe fo, ac o'n i jest wedi dotio ar y stiwdio. A dw i'n cofio meddwl 'swn i wrth fy modd yn cael cynnig ar hynny. Wedyn mi ddaeth y cyfle ac wedyn mae'r gweddill yn hanes..."
Pan ddechreuodd Lisa ddarlledu ar Radio Cymru roedd hi'n rhan o griw C2. Gwasanaeth gyda'r nos oedd C2 oedd yn rhoi'r "flaenoriaeth i gerddoriaeth" yng nghwmni cyflwynwyr eraill fel Huw Stephens, Dafydd Meredydd a Magi Dodd. Roedd C2 yn wasanaeth poblogaidd a oedd yn denu timau o ysgolion ledled Cymru i herio'i gilydd yn y Cwis Pop, yn darlledu Siart C2 yn wythnosol a hefyd yn cyflwyno Sesiynau C2.
Does dim dwywaith y bu'r sesiynau yn hwb enfawr i gerddorion yng Nghymru ac yn gyfrifol am sut y cyrhaeddodd cerddoriaeth pobl fel Frizbee, Radio Luxembourg, Meinir Gwilym ac Al Lewis glustiau miloedd o ffans cerddoriaeth i ddechrau.
"Yn ystod y blynyddoedd dw i wedi cael dod ar draws y bandiau ifanc 'ma, reit ar ddechrau eu gyrfa nhw a maen nhw dal wrthi blynyddoedd yn ddiweddarach, erbyn hyn yn headleinio y gwyliau mwya'. Mae gweld y datblygiad yna wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd."
Ar ôl i C2 ddod i ben yn 2016 fe barhaodd ei rhaglen dan yr enw 'Lisa Gwilym yn cyflwyno...' a dyna'n union y gwnaeth hi - cyflwyno artistiaid newydd i'r genedl. Un o'r rhai amlycaf o'r blynyddoedd diweddar o bosib yw Alffa.
"Dw i'n cofio cyfarfod Alffa yn Clwb Canol Dre yng Nghaernarfon - dyna lle oedd eu rhanbarth Brwydr y Bandiau nhw. 'Wnaethon nhw gig yn fan 'na ac oedd pawb fel "Wooooow! Pwy ydy'r ddau yma?!" Ac oedd hi'n flwyddyn andros o dda, oedd gen ti Eädyth, Mabli Tudur, oedd Gwilym yna!
"Ond oedd 'na rywbeth am Alffa, ti'n gwybod, jest y ddealltwriaeth 'na rhwng Sion a Dion. A wedyn ti jest wedi'u gweld nhw wedyn yn mynd o nerth i nerth yn cael miliynau o ffrydiadau. Dw i wastad wedi bod yn falch iawn o Alffa.
"Ond mae 'na gymaint o fandiau ac artistiaid, alla i ddim enwi pawb, fydda' i yma drwy'r dydd!"
Nid ar y radio yn unig mae Lisa yn hyrwyddo cerddoriaeth. Mae hi wedi cyflwyno rhaglenni fel Y Stiwdio Gefn ar S4C, wedi dod â digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod, Tân y Ddraig a Sesiwn Fawr i'n 'stafelloedd byw a chyflwyno oddi ar lwyfannau gwyliau ym mhob cwr o'r wlad. Does dim dwywaith ei bod hi wedi bod yn ei chanol hi go iawn am ddau ddegawd ac yn wir wedi gwneud cyfraniad arbennig.
"Dw i wedi cael y pleser mwyaf yn ystod yr ugain mlynedd a dw i'n dal i gael yr un pleser o fod mewn stiwdio radio hyd heddiw. Ond mae'n rhaid diolch i'r cerddorion, mae'n rhaid diolch i'r labeli, mae'n rhaid diolch i'r hyrwyddwyr, mae'n rhaid diolch i'r rheiny sy'n cynnal digwyddiadau. Mae angen pawb i gynnal sîn felly 'mond bod pawb dal wrthi mi fydd y sîn yn ffynnu am flynyddoedd lawer."
Gallwch glywed Lisa Gwilym bore dydd Llun i ddydd Iau rhwng 09:00 ac 11:00 ar BBC Radio Cymru 2.
Hefyd o ddiddordeb: