Y llenor John Gruffydd Jones wedi marw yn 90 oed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
John Gruffydd JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu

Bu farw llenor a lwyddodd i ennill tair o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol o fewn cyfnod o chwe blynedd.

Cipiodd John Gruffydd Jones y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Machynlleth 1981, Tlws y Ddrama yn Abergwaun 1986, a'r Goron ym Mhorthmadog yn 1987.

Yn gemegydd diwydiannol wrth ei waith, treuliodd gyfnod ym Manceinion, cyn symud i Abergele yn 1967 gyda'i wraig Eirlys ac ymgartrefu yno.

Roedd yn llenor ac awdur cyson ar hyd ei oes, gan fynd ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol hyd yn oed ar ôl ei ymddeoliad.

Yn wreiddiol o Nanhoron, Llŷn, roedd John Gruffydd Jones hefyd yn cael ei adnabod fel John Trigfa, sef cyfeiriad at gartref ei fagwraeth led cae oddi wrth Gapel Newydd, Nanhoron.

Fel cyn-disgybl yn Ysgol Botwnnog, cyfeiriodd yn aml at ddylanwad ei hen athro, sef Gruffydd Parry.

Bu'n gweithio fel cemegydd diwydiannol gyda chwmni ICI, ond roedd yn ŵr eang ei ddiddordebau, fel dyfarnwr pêl-droed a chefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe.

Dawnus mewn sawl maes

Ond yn y maes llenyddol y daeth i amlygrwydd pennaf, ac o ganol yr 1970au ymlaen fe enillodd gyfres o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn eu plith y delyneg ar sawl achlysur, y stori fer, y soned a'r fonolog.

Mor ddiweddar â 2018 fe enillodd wobr lenyddol yn y Brifwyl, ond cyn hynny, fe enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1981, Y Fedal Ddrama yn 1986 a'r Goron yn 1987.

Parhaodd yn brysur ar ôl ei ymddeoliad a bu'n olygydd ar Y Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng mlynedd rhwng 2000 a 2010.

Aeth ati hefyd i ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol dan gyfarwyddyd Yr Athro Angharad Price yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012.

Ysgogodd hynny ef i ysgrifennu'r nofel 'Dawns Ganol Dydd' yn 2012, a'r casgliad o gerddi 'Ai Breuddwydion Bardd Ydynt?' yn 2013.

Hyd at ei farwolaeth parhaodd yn golofnydd misol ym mhapur bro Y Glannau.

Er na fu ei iechyd yn dda ers tro, bu farw ar ôl gwaeledd byr ddydd Sadwrn, 11 Mawrth.

Mae'n gadael merch a mab, Delyth Marian a Dafydd Llewelyn, yn ogystal â thair o wyresau.

Teyrngedau i lenor o fri

Talwyd teyrnged iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd John Gruffydd Jones yn lenor, bardd a dramodydd heb ei ail.

"Nid ar chwarae bach mae llwyddo i ennill y Fedal Ddrama, y Fedal Ryddiaith a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ystod y 1980au, John Gruffydd Jones oedd yr un i'w guro yng nghystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod.

"Roedd bob amser yn barod ei gefnogaeth i'r Eisteddfod, lle bynnag oedd yr ŵyl yng Nghymru.

"Gyda'i wreiddiau'n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni, a'i Goron wedi'i hennill ym Mro Madog yn 1987, fe fyddwn yn meddwl yn annwyl iawn amdano, ei deulu a'i gyfeillion yn ystod yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd ym mis Awsrt. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu heddiw."

Dywedodd Marred Glyn Jones, golygydd creadigol Gwasg y Bwthyn Caernarfon, a gyhoeddodd rai o lyfrau Mr Jones: "Rydym yn teimlo'n drist yma yng Ngwasg y Bwthyn heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth John Gruffydd Jones.

"Cawsom y fraint o gyhoeddi ei nofel Dawns Ganol Dydd yn ôl yn 2012, a'i gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Ai Breuddwydion Bardd Ydynt? y flwyddyn wedyn.

"Bu John hefyd yn olygydd cylchgrawn wythnosol yr Eglwys Bresbyteraidd, Y Goleuad, am nifer o flynyddoedd, cylchgrawn a oedd yn cael ei argraffu a'i ddosbarthu gan Wasg y Bwthyn.

"Roedd yn hyfryd cael y cyfle i gydweithio â John gan ei fod yn berson mor dalentog, dymunol a ddiymhongar.

"Roedd yn dipyn o gogydd, ac mi roedden ni i gyd yn gwerthfawrogi ei deisennau pan oedd o'n galw heibio i'r swyddfa!

"Mi fyddwn ni'n ei golli."