Wrecsam: 'Perthynas busnesau â'r cyngor wedi torri'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r berthynas rhwng pobl fusnes lleol yn Wrecsam â'r cyngor bwrdeistref wedi torri i lawr."
Dyna farn un dyn busnes lleol yn sgil y newyddion fod cwmni Marks and Spencer yn gadael canolfan siopa Dôl yr Eryrod y ddinas.
Mae'r cwmni'n adleoli i ran arall o Wrecsam i werthu bwyd yn unig, oherwydd newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn siopa.
Fe agorwyd Dôl yr Eryrod yn Hydref 2008, ond erbyn hyn mae 'na ambell i uned wag yno.
Fe gaeodd siop Debenhams yn y ganolfan siopa yn ystod y pandemig, ac eleni bydd cwmni Marks and Spencer yn adleoli i Barc Manwerthu Plas Coch yn ninas Wrecsam, ond i werthu bwyd yn unig.
'Mae o fel nhw a ni'
Mae Gethin Thomas yn ddyn busnes yn Wrecsam, a dywedodd bod penderfyniad y cwmnïau hynny yn ergyd i Ddôl yr Eryrod.
"Dwi'n meddwl fod o [yn golled] achos ar ôl colli Debenhams, a Marks hefyd yn symud allan rŵan, mae'r ddwy siop fawr fel petai yn dweud 'di'r prosiect ddim yn gweithio, ac maen nhw wedi newid eu meddwl ac yn symud allan o'r lle," meddai.
"Heblaw am y pêl-droed does 'na ddim llawer o stori dda yn Wrecsam ar hyn o bryd.
"Mi oeddwn i'n gyfarwyddwr ar elusen lleol lle roedden ni'n trio cael cyswllt rhwng pobl fusnes y dre' a'r cyngor lleol.
"Oeddan ni wedi bod yn cwffio am dair i bedair blynedd jyst i gael y cyswllt yna, fel bod ni yn eu dallt nhw a nhwythau yn ein deall ni, a bod ni'n cael trafodaeth gyda'n gilydd.
"Roedd o'n bwyllog ac yn gall, ond mae hwnna hefyd wedi torri i lawr a dwi'n ama' fod y cyswllt rhwng y bobl leol a'r rheiny sy'n rhedeg y cyngor... bod 'na ddim cysylltiad ar ddwy ochr y geiniog.
"Dydan ni ddim yn cyfarfod, dydan ni ddim yn sgwrsio… dydan ni ddim yn deall ein gilydd, a dwi'n ama' mai hynny ydi gwraidd y broblem gan fod y sgwrs ddim yn bod ar hyn o bryd.
"Mae o fel 'nhw a ni'."
'Pwysig parhau i gefnogi siopau'
Yn sgil penderfyniad Marks and Spencer dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, deilydd portffolio economi Cyngor Wrecsam: "Yn amlwg bydd yn drist gweld M&S yn gadael ei leoliad yng nghanol y ddinas, ond rydym yn falch bod y busnes yn dal i fuddsoddi yn Wrecsam ac wedi ymrwymo i ddatblygu eu cynnig bwyd yma.
"Mae M&S yn frand o bwys ac yn gyflogwr lleol pwysig, ac mae'n galonogol bod y cwmni'n cynnig pecynnau adleoli i'w staff.
"Mae'r ffordd rydyn ni'n siopa wedi newid yn aruthrol dros y ddegawd ddiwethaf, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn siopa ar-lein a llai o ymwelwyr â chanol dinasoedd ledled y DU.
"Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i gefnogi'r siopau a'r busnesau ar ein strydoedd mawr, a'n bod ni fel cyngor yn hyblyg ac yn arloesol o ran ein hymagwedd at unedau gwag."
Yn ymateb i'r honiad bod y berthynas rhwng pobl fusnes y ddinas a'r cyngor sir wedi torri i lawr, ychwanegodd: "Fel cyngor, rydyn ni'n edrych i ymateb i'r heriau hyn trwy ein Cynllun Creu Lleoedd sydd allan ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
"Mae cefnogi defnyddiau newydd ar gyfer eiddo yng nghanol y ddinas yn rhan allweddol o'r cynllun, ac i gyflawni hyn, mae'r cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol cyfredol a chynorthwyo busnesau newydd a all ddod â chynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd i Wrecsam.
"Rhoddodd ein Tîm Cefnogi Busnes hefyd ymrwymiad cyhoeddus i fod yn fwy gweladwy o fewn canol y ddinas, a dechreuodd y gweithgaredd hwn ddydd Mercher, Mawrth 15 gydag aelodau o'r tîm yn ymweld â 15 o fusnesau. Bydd hyn yn cael ei ailadrodd yn wythnosol.
"Rydym hefyd yn ystyried Ardal Gwella Busnes (BID) ar gyfer Wrecsam. Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i ystyried dichonoldeb, a gallai hyn arwain at bleidlais i greu AGB a fyddai'n gwasanaethu buddiannau busnesau lleol."
'Arferion siopa yn newid'
Dywedodd David Hughes, rheolwr rhanbarthol M&S: "Mae arferion siopa yn newid, ac rydym yn ail-lunio ein hystâd i ganolbwyntio ein buddsoddiad ar y siopau cywir yn y mannau cywir.
"Rydym wedi hysbysu ein cydweithwyr am ein cynlluniau adleoli a'n blaenoriaeth yw eu cefnogi drwy'r newidiadau hyn.
"Bydd llawer o gydweithwyr yn trosglwyddo i'r Neuadd Fwyd newydd a bydd cyfleoedd hefyd i weithio mewn siopau eraill.
"Bydd ein Neuadd Fwyd newydd M&S Wrecsam yn agor yn ystod hydref 2023 a byddwn yn cadw ein siop bresennol ar agor tan yr amser hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022