Geraint Lloyd yn ymuno â gorsaf radio MônFM

  • Cyhoeddwyd
Geraint LloydFfynhonnell y llun, MônFM
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Lloyd yn un o gyflwynwyr Radio Cymru am 25 mlynedd

Bydd y cyflwynydd radio, Geraint Lloyd, yn ymuno â'r orsaf radio gymunedol MônFM fis nesaf.

Bu Geraint Lloyd yn cyflwyno ar y radio ers degawdau, ac yn darlledu ar BBC Radio Cymru ers chwarter canrif.

Dywedodd Tony Wyn Jones, cadeirydd a phennaeth rhaglenni MônFM, bod yr orsaf yn "falch iawn o gyhoeddi y bydd un o gyflwynwyr radio mwyaf poblogaidd Cymru" yn ymuno â nhw.

Daeth rhaglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru i ben yn Hydref 2022 yn dilyn newidiadau i amserlen yr orsaf.

'Un o gewri y byd darlledu'

Mewn datganiad dywedodd Tony Wyn Jones bod "Geraint Lloyd yn un o gewri y byd darlledu yng Nghymru ers chwarter canrif, ac yn ogystal â chyfweld enwogion, mae wedi rhoi llwyfan a llais i bobl ar lawr gwlad drwy hyrwyddo cynnwys diddorol o gefn gwlad, materion amaethyddol a gweithgareddau cymunedol," meddai.

"Mae ganddo hefyd gyswllt cryf gyda 'bois y lorïau' a'r byd ralïo a rasio. Mae o'n uchel ei barch yn y diwydiant darlledu fel 'bonheddwr y radio', bob tro'n llon ac yn trin pobl gyda pharch.

Ychwanegodd Geraint Lloyd: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â thîm Radio Cymunedol MônFM, a chadw cysylltiad gyda fy ngwrandawyr ar draws Cymru."

Bydd ei raglen gyntaf ar nos Fawrth, 11 Ebrill.

Pynciau Cysylltiedig