Pen Llŷn: 'Pryder garw' am gynllun unedau gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Bentref MynythoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwriad i godi'r datblygiad drws nesaf i Neuadd Bentref Mynytho

Mae cais i ddatblygu unedau gwyliau yn pryderu rhai trigolion mewn pentref ym Mhen Llŷn.

Bwriad datblygwyr yw codi 16 uned wyliau, pum tŷ marchnad agored, tafarn a thŷ bwyta ym Mynytho.

Yn ôl John Fifield, sydd wedi cyflwyno'r cais cynllunio, byddai'n dod â buddion economaidd i'r ardal.

Ond mae'r cynghorydd lleol yn dweud fod 'na wrthwynebiad chwyrn a bod ei "ffôn heb stopio" ers i'r cynllun ddod yn hysbys.

'Mae'n or-ddatblygiad'

Y bwriad yw codi'r datblygiad drws nesaf i'r neuadd bentref ar safle tŷ a garej masnachol ym Mynytho.

Y gŵr tu ôl i'r cynllun ydy John Fifield, a oedd yn ymgeisydd i fod yn gynghorydd dros yr ardal, dolen allanol yn etholiadau lleol y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw codi 16 uned wyliau, pump o dai, tafarn a thŷ bwyta ger y neuadd bentref bresennol

Yn ôl Mr Fifield, mae wedi siarad gyda rhai pobl leol sy'n gefnogol o'r cynllun, a dywedodd fod datblygiadau o'r fath yn helpu i gadw ysgolion a chyfleusterau lleol yn hyfyw.

Ond dywedodd Angela Russell, sy'n cynrychioli ward Llanbedrog a Mynytho ar Gyngor Gwynedd, fod 'na eisoes wrthwynebiad cryf yn lleol.

"Dydi'r ffôn heb stopio. Mae pobl y pryderu'n arw," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae o'n or-ddatblygiad, tu allan i'r ffin datblygu, a ti'n gorfod cwestiynu os oes 'na alw am y math yma o ddatblygiad.

"'Dan ni'm angen mwy o dafarndai a thai bwyta. Mae'r rhai sydd ganddon ni yn stryglo fel ma'i.

"Mae Mynytho yn barod yn cael ei adnabod fel Upper Abersoch a Llanbedrog fel Lower Abersoch. Mae 'na dai wedi'u hadeiladu dros y ffordd yn ddiweddar ond dydi'r rheiny i gyd ddim yn llawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd sir, Angela Russell, yn dweud iddi dderbyn sawl galwad ffôn gan bobl yn bryderus am y cynlluniau

Ychwanegodd y Cynghorydd Russell, sy'n arwain gwrthblaid annibynnol Cyngor Gwynedd: "Mae'r syniad o dai marchnad leol yn swnio'n dda ar bapur, ond go iawn mae pobl yn stryglo i dalu.

"Gwaith o safon 'dan ni angen yma, dim swyddi tymhorol.

"Ar ddiwedd y dydd faint mwy o holiday lets 'dan ni angen? Dwi'n teimlo fod ni'n over-saturated fel ma'i.

"Dwi'n teimlo fod 'na lai o alw ers i'r ffiniau ailagor a pobl yn gallu hedfan dramor eto."

'Darparu swyddi da i bobl leol'

Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais amlinellol dros y misoedd nesaf, ond cyn gallu dechrau ar unrhyw adeiladu byddai hefyd angen caniatâd mwy manwl yr awdurdod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mynytho rhyw ddwy filltir o Abersoch, sy'n gyrchfan wyliau poblogaidd

Dywedodd yr ymgeisydd, John Fifield: "Does 'na ddim tafarn na thŷ bwyty ym Mynytho, a bydd ein cynnig o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Does dim amheuaeth bod galw gan weithredwyr a chwsmeriaid am rywbeth addas ym Mynytho ac nid ydym yn derbyn bod siopau presennol yn yr ardal yn ei chael hi'n anodd - ceisiwch archebu bwrdd yn unrhyw le.

"Nid ydym ychwaith yn derbyn bod yr ardal yn dioddef dirywiad mewn twristiaeth oherwydd bod pobl yn gallu mynd dramor eto, nac ychwaith fod swyddi yn y sector hamdden mor dymhorol â hynny."

Gan ychwanegu fod y cysyniad o bobl ond yn ymweld â Phen Llŷn ym mis Awst yn "gwbl hen ffasiwn", mae Mr Fifield wedi beirniadu polisi Cyngor Gwynedd, dolen allanol o osod premiwm treth cyngor ar berchnogion ail gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o sut y byddai'r datblygiad gorffenedig yn edrych

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae galw am y llety gwyliau a byddant yn darparu swyddi da i bobl leol.

"Pwynt gwerthu Pen Llŷn yw twristiaeth a dylai cynrychiolwyr lleol fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w hyrwyddo.

"Dyna'r ffordd o helpu pobl leol i ddod o hyd i swyddi sy'n talu'n dda, fel y gallant aros yn yr ardal a magu eu teuluoedd - gan gadw ysgolion chyfleusterau lleol eraill yn hyfyw."

Pynciau cysylltiedig